-e139969c_H-_4Hr0c.jpg)
Pethau i‘w Gwneud yng Nghaerdydd
Ymgollwch ym Mwrlwm ac Egni Prifddinas Cymru
Crwydrwch y Ddinas
Mae Caerdydd yn lle gwych i fyfyrwyr ac mae yma rywbeth at ddant pawb.
Crwydrwch y glannau draw yn ardal y Bae, ewch i glybio yn hen warysau diwydiannol Caerdydd, a mwynhewch ddiwylliant mewn amgueddfeydd, orielau a theatrau o fri. Hefyd, mae ‘na gastell canoloesol, stadiwm ryngwladol gyda 76 000 o seddi, a hynny o siopau, bwytai, a chaffis y gallech chi ddisgwyl eu cael mewn prifddinas.
Mae ein campws o fewn pellter cerdded braf i ganol y ddinas, felly bydd y cyfan ar stepen eich drws!
Ewch am noson allan wych

Ewch am noson allan wych
Mae Caerdydd yn enwog fel lle gwych am noson allan ac, fel pob dinas dda, mae’n llawn bariau a bwytai cŵl. Ewch i glybiau fel PRYZM, Tiger Tiger, Popworld, Mary’s a llawer mwy.
Ewch i Weld Sioe
Ewch i Weld Sioe
Mae rhai o ddigwyddiadau adloniant mwyaf eiconig Cymru yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.
Mae Canolfan y Mileniwm, canolfan gelfyddydau genedlaethol Cymru wedi’i lleoli ym Mae Caerdydd. Ewch yno i fwynhau sioe gerdd o’r West End, opera, ballet, dawns gyfoes, hip-hop, neu gomedi.
Yng nghanol y ddinas mae’r New Theatre, un o brif theatrau Caerdydd, a Neuadd Dewi Sant sy’n lleoliad arall ar gyfer cynadleddau a’r celfyddydau perfformio.
Gwyliwch Chwaraeon neu Ewch i Gig
Allwch chi ddim anwybyddu Stadiwm y Principality, y lleoliad eiconig yng nghanol Caerdydd. Cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau yno, gan gynnwys cyngherddau, gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol, chwaraeon modur, a mwy.
Neu beth am fwynhau gig awyr agored ym Mharc Bute?
Cadwch yn Heini

Cadwch yn Heini
Does dim prinder gweithgareddau hamdden ar gyfer myfyrwyr Caerdydd.
Gan gynnwys sglefrio iâ, nofio ym Mhwll a Champfa Ryngwladol Caerdydd, Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, a llwyth o barciau gwych i feicio, sglefrfyrddio, a mwy.
Ymhellach i Ffwrdd...
Ymhellach i Ffwrdd…
Ychydig filltiroedd i lawr y ffordd, mae’r Pafiliwn art-deco ar bier Penarth, a adeiladwyd yn 1929 ac sydd wedi’i adnewyddu’n ddiweddar.
Ewch i’r ffair neu am ddiwrnod ar y traeth yn Ynys y Barri neu i grwydro arfordir De Cymru. Beth am heic ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i weld y golygfeydd godidog?
Book an open day
