
Cynllun Cyhoeddi
Beth yw Cynllun Cyhoeddi?
Daeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i rym yn llawn ar 1 Ionawr 2005 a’i nod yw hyrwyddo diwylliant o fod yn agored ac yn atebol ar draws y sector cyhoeddus. Mae’n rhoi hawl mynediad cyffredinol i bob math o wybodaeth a gofnodwyd sy’n cael ei gadw gan awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys prifysgolion), ac mae’n nodi eithriadau i’r hawl honno ac yn gosod nifer o rwymedigaethau ar awdurdodau cyhoeddus.
O dan Adran 19 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i’r Brifysgol gynnal Cynllun Cyhoeddi sydd ar gael i’r cyhoedd; dogfen sy’n amlinellu’r wybodaeth y mae’r Brifysgol yn ei chyhoeddi’n rheolaidd, sydd ar gael ar hyn o bryd neu y mae’n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol. Nid yw’n rhestr o ddogfennau go iawn, ond yn hytrach yn ganllaw i’r gwahanol ‘ddosbarthiadau’ neu’r mathau o wybodaeth y mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i fynd ati i’w darparu.
Bwriad y cynllun cyhoeddi yw helpu’r cyhoedd i ddod o hyd i wybodaeth sy’n cael ei gadw gan y Brifysgol a lleihau’r angen i wneud cais ffurfiol am wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Sut mae'r cynllun yn cael ei drefnu
Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu Dogfen Ddiffinio’r Comisiynydd Gwybodaeth i brifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill, a gyhoeddwyd yn Ionawr 2013, sydd wedi’i threfnu’n saith dosbarth o wybodaeth:
-
Gwybodaeth sefydliadol, lleoliadau a chysylltiadau, llywodraethu cyfansoddiadol a chyfreithiol.
Fframwaith cyfreithiol / Sefydliad:
Mae PCYDDS yn Brifysgol Siartredig Frenhinol ac yn Elusen Gofrestredig. Mae’n cael ei lywodraethu gan Statudau’r Siarter a’i Ordinhadau.
Cwmnïau sy’n eiddo llwyr neu’n rhannol eiddo i PCYDDS:
Grŵp PCYDDS:
Cwmnïau Eraill:
- Eclectica Drindod Limited
- Trinity University College Ltd
- Trinity College Carmarthen
- Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Cyfyngedig
- UWN Investments Limited
- Welsh American Academy Enterprises Limited
- Swansea School of Business
- UWN Learning Centres Ltd
- Tidal Lagoon Academy Ltd
- Mentrau Creadigol Cymru Cyf
- UWN Innovation Centres Limited
- UW Pensions Limited
Mentrau ar y cyd:
- OSTC Trinity St David LLP
- UW Centre for Advanced Batch Manufacture Ltd
-
Gwybodaeth ariannol yn ymwneud ag incwm a gwariant a ragwelir ac incwm a gwariant gwirioneddol, tendro, caffael a chontractau.
- Datganiadau ariannol
- Cynllun Ffioedd a Mynediad
- Rheoliadau Ariannol - yn dod yn fuan
- Datganiad Polisi Cyflogau
- Caffael
- Ymchwil
-
Gwybodaeth am strategaeth a pherfformiad, cynlluniau, asesiadau, arolygiadau ac adolygiadau.
- Datganiadau ariannol
- Gweithio gyda chyflogwyr
-
Cynigion a phenderfyniadau polisi. Prosesau gwneud penderfyniadau, meini prawf a gweithdrefnau mewnol, ymgynghoriadau.
- Cofnodion y cyngor
- Ordinhadau
-
Protocolau ysgrifenedig cyfredol ar gyfer cyflawni ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau.
-
Gwybodaeth sy’n cael ei gadw mewn cofrestrau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a rhestrau a chofrestrau eraill sy’n ymwneud â swyddogaethau’r awdurdod.
-
Cyngor ac arweiniad, llyfrynnau a thaflenni, trafodion a datganiadau i’r cyfryngau. Disgrifiad o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig.
Mae gwybodaeth am y rhan fwyaf o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig ar gael ar-lein. Mae’r rhain yn cynnwys:
Ein cyrsiau:
- Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
- Porwch drwy ein Prosbectws israddedig
- Chwiliwch drwy ein Cyrsiau israddedig
- Gwybodaeth am ein Prentisiaethau
- Gwybodaeth am y cyrsiau rydym yn eu cynnig ar-lein a thrwy ddysgu o bell
- Chwiliwch drwy ein Cyrsiau ôl-raddedig
- Gwybodaeth am ein cyrsiau Dysgu Seiliedig ar Waith
- Gwybodaeth am ein rhaglenni a’n cyrsiau ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol
- Ein Canllaw i Rieni ar gyfer y broses ymgeisio
- Sut i Wneud Cais
Ein Ffioedd:
- Ffioedd Israddedig
- Ffioedd Ôl-raddedig
- Ffioedd Tramor
- Ein Cynllun Ffioedd a Mynediad
Ein Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr:
- Gwasanaeth Gyrfaoedd
- Gwasanaeth Cwnsela
- Togetherall
- Cymorth Ariannol
- Rhyngwladol
- Gwasanaethau i Fyfyrwyr Anabl
- PASS (Sesiynau Astudio gyda Chymorth Cymheiriaid)
- Cymorth Sgiliau Astudio
- Cefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi gadael gofal
- Lles Myfyrwyr
- Rhifau cyswllt mewn argyfwng
Gwasanaethau eraill i Fyfyrwyr:
- Ffydd ac Ysbrydolrwydd
- Technoleg a Systemau Gwybodaeth
- Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu
- Chwaraeon
- Hwb Myfyrwyr
- Llety Myfyrwyr
- Undeb y Myfyrwyr
- Astudio Dramor a Chyfnewid
Gwasanaethau eraill:
- Gwasanaethau Cynadledda a Phriodasau
- Digwyddiadau
- Cwynion Allanol
- Gwybodaeth i Gyn-fyfyrwyr
- Gwybodaeth i Fusnesau
- Gwybodaeth i Gymunedau
- Swyddi PCYDDS
- Newyddion a Digwyddiadau Diweddaraf
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth sy’n dod o fewn y dosbarthiadau hynny ar gael i’r cyhoedd. Mae mwy o fanylion am bob dosbarth ar gael yn nogfen Ddiffinio’r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer y Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol i brifysgolion.
Gwybodaeth ychwanegol…
Gwybodaeth sydd wedi’i heithrio o’r cynllun
Fel arfer ni fydd y wybodaeth sydd ar gael yn y dosbarthiadau yn cynnwys:
- Gwybodaeth y tybir ei bod wedi’i heithrio o dan un o eithriadau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu eithriadau’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, neu ei bod wedi ei gwahardd rhag cael ei rhyddhau dan statud arall;
- Gwybodaeth sydd wedi’i harchifo, nad yw’n gyfredol neu nad oes mynediad iddi fel arall; neu
- Gwybodaeth y byddai’n anymarferol neu y byddai’n defnyddio llawer o adnoddau i’w pharatoi i’w rhyddhau dan drefn arferol.
Fformatau eraill
Os bydd angen gwybodaeth arnoch mewn fformat neu iaith arall, cysylltwch â Rheolwr Cofnodion y Brifysgol.
Codi tâl
Mae llawer o’r wybodaeth ar gael yn rhad ac am ddim ar ein gwefan. Mewn achosion lle nad yw’n ymarferol i ni sicrhau bod gwybodaeth ar gael ar y we, neu pan fo’r wybodaeth ar gael ar ffurf copi caled yn unig, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i godi tâl ar gyfer costau llungopïo, postio a deunydd pacio. Mewn achosion o’r fath codir isafswm o £5.00 Os bydd y cais yn fwy na 50 tudalen A4 codir tâl ychwanegol o 10c y ddalen. Codir tâl postio’n unol â chyfraddau safonol y Post Brenhinol.
Gwybodaeth arall
Sylwer bod y rhan fwyaf o’r dogfennau sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun cyhoeddi hwn wedi’u creu’n bennaf at ddibenion mewnol. Gall hyn, o bryd i’w gilydd, greu mân broblemau o ran bod yn ddealladwy i ddarllenwyr allanol. Anfonwch unrhyw geisiadau am gyfarwyddyd i foi@UWN.ac.uk
Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth rydych yn chwilio amdani drwy’r cynllun cyhoeddi, efallai yr hoffech roi cynnig ar gyfleuster chwilio’r wefan sydd ar gael yng nghornel dde uchaf y dudalen gartref.
Gellir gwneud cais ysgrifenedig am wybodaeth sy’n cael ei gadw gan y Brifysgol nad yw’n cael ei chyhoeddi dan y cynllun hwn. Bydd ceisiadau o’r fath yn cael eu hystyried yn unol â darpariaethau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a’r Ddeddf Diogelu Data. Anfonwch e-bost i foi@UWN.ac.uk neu edrychwch ar dudalennau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i gael manylion pellach.
Hawlfraint
Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant hawlfraint dros bron pob cyhoeddiad a restrir yn y cynllun hwn; gallai atgynhyrchu deunydd a gyflenwyd drwy’r cynllun cyhoeddi neu trwy ymateb i gais am wybodaeth, a hynny heb
Cysylltwch a Ni
Paul Osborne
Swyddog Diogelu Data
Rhif: 01792 481180
E-bost: foi@UWN.ac.uk
Campws Busnes Abertawe
Prifysgol Cymru, Casnewydd
High Street,
Abertawe, SA1 1NE