
Ceisiadau Ôl-raddedig
Ceisiadau Ôl-raddedig
Os ydych chi’n bwriadu cymryd y cam nesaf yn eich taith academaidd trwy astudiaethau ôl-raddedig, mae gan PCYDDS gymuned ôl-raddedig amrywiol sy’n barod i’ch croesawu. Man lle mae arloesi, ymchwil, a thwf deallusol yn cael eu dathlu.
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, p’un ai eich bod wedi graddio’n ddiweddar neu wedi bod allan o fyd addysg ers amser. Porwch drwy fanylion y broses ymgeisio gywir er mwyn cymryd y camau nesaf.
Links
Rhaid defnyddio gwefan UCAS i wneud ceisiadau i ymuno â rhaglenni TAR Cynradd ac Uwchradd. Os ydych eisiau gweud cais i ymuno â chwrs Ymchwil Ôl-raddedig neu Ôl-raddedig a Addysgir arall, gwnewch hynny yn uniongyrchol os gwelwch yn dda.

Gyda llawer o'n rhaglenni rhan-amser ac ôl-radd (ac eithrio rhaglenni TAR llawn amser), bydd angen i chi wneud cais uniongyrchol i'r Brifysgol yn hytrach na thrwy UCAS.

Mae gennym rwydwaith o asiantau ar draws y byd yn barod i'ch helpu gyda'ch cais.
Mae'r Brifysgol wedi penodi cynrychiolwyr/asiantau lleol a all gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth gyda cheisiadau gan ddarpar fyfyrwyr.

Darllenwch y wybodaeth ganlynol cyn mynd ati i wneud eich cais. Efallai bod gofynion ychwanegol yn berthnasol ar gyfer rhai rhaglenni, felly darllenwch dudalennau’r rhaglenni unigol. Bydd ceisiadau’n cael ei ystyried yn ôl eu rhinweddau eu hunain.
