Coleg Celf Abertawe

Profiad Ysgol Gelf mewn Prifysgol Gyfoes
Nid oes addysg brifysgol arall yn debyg i addysg coleg celf. Mae’n unigryw yn y ffordd y mae’n meithrin, cyfarwyddo ac annog unigoliaeth, creadigrwydd ac arloesi.
Mae gan y DU ystod gyfoethog ac amrywiol o golegau celf sydd â threftadaeth arbennig o gynhyrchu artistiaid, dylunwyr, animeiddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a pherfformwyr a gydnabyddir ar draws y byd. Yn goleg celf hynaf a mwyaf sefydledig Cymru, mae Coleg Celf Abertawe yn rhan uchel ei pharch o’r traddodiad hwnnw.
Beth gallaf astudio?
Mae gan ein holl gyrsiau athroniaeth gyffredin; galluogi unigoliaeth, rhyddid creadigol a hyblygrwydd academaidd, ac rydym yn credu bod y rhain i gyd yn hanfodol wrth ddod o hyd i’ch llais eich hun o fewn eich dewis faes creadigol.

I Ôl-raddedigion
Mae ein Portffolio MA Deialogau Cyfoes yn creu llwyfan dysgu unigryw a ddefnyddir i annog myfyrwyr i ehangu eu profiad creadigol trwy arbrofi, cydweithio a disgwrs ryngddisgyblaethol.
Statistics
Mwy o opsiynau

Ysgol Gelf Dydd Sadwrn
Gyda’r nod o ysbrydoli a datblygu artistiaid ifanc rhwng 16-18 oed, mae’r cwrs 10 wythnos hwn yn darparu profiad Ysgol Gelf cyffrous, creadigol, ac yn caniatáu i chi archwilio gwahanol ddisgyblaethau Celf a Dylunio i ymestyn eich portffolio Celf.

I Brentisiaid
Cydnabyddir Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant yn un o ganolfannau rhagoriaeth y DU mewn gwydr lliw. Mae gan yr adran dreftadaeth gyfoethog mewn addysg gwydr lliw ac mae ganddi archif gwefreiddiol o ddyluniadau’n rhychwantu 80 mlynedd, sy’n darparu adnodd addysgu amhrisiadwy.

Dosbarthiadau Nos i Chi
Mae’r rhaglen Celf Liw Nos yn cael ei chynnal drwy’r flwyddyn ac mae’n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau creadigol, gan gynnwys serameg, ffotograffiaeth, a darlunio.
Newyddion
