Cenhadaeth a Gweledigaeth

Ein Cenhadaeth
Trawsnewid Addysg; Trawsnewid Bywydau
Ein Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw bod yn Brifysgol i Gymru, gydag ymrwymiad i les a threftadaeth y genedl yn greiddiol i bopeth a wnawn. Yn ganolog i’n gweledigaeth mae hyrwyddo ac ymgorffori system addysg sector deuol sy’n addysgu dysgwyr o bob oed a chefndir, ac sy’n ysgogi datblygiad economaidd yn ein rhanbarth, ar draws Cymru a thu hwnt.
Ein Gwerthoedd
Addysgu ardderchog wedi ei lywio gan ysgolheictod ac arfer proffesiynol, ac ymchwil cymhwysol sy’n dylanwadu ar wybodaeth a pholisi yng Nghymru a thu hwnt.
Cynwysoldeb, trwy ddileu rhwystrau rhag cymryd rhan a chefnogi pobl o bob cefndir ac amgylchiad i gyflawni eu potensial.
Cyflogadwyedd a chreadigrwydd, trwy gynnig rhaglenni addysgol sy’n datblygu sgiliau entrepreneuraidd a chreadigol, gan alluogi dysgwyr i gael y cyfleoedd gorau i gael gwaith a chyfrannu at ffyniant eu cymunedau.
Cydweithio trwy berthnasau strategol, gan weithio gydag eraill i ddarparu cyfleoedd addysgol a masnachol ac i sicrhau bod Cymru wedi’i chysylltu â’r byd ehangach.
Datblygu cynaliadwy, trwy ymddwyn mewn ffordd sy’n sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau, a thrwy ymgorffori’r egwyddor hon yn systematig yn ein hymagwedd at addysgu a dysgu.
Cysyniad dinasyddiaeth fyd-eang, trwy ddatblygu gweithgareddau a chyfleoedd rhyngwladol i’n dysgwyr, ein staff a’n partneriaid.
Cymru a’i chymeriad arbennig, trwy ymgorffori nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ein holl weithgareddau, a thrwy ddathlu iaith, treftadaeth a diwylliant bywiog Cymru.
Ein Nodweddion Diffiniol
Rydym yn Brifysgol sy’n:
- ychwanegu gwerth at y profiad dysgu drwy ddulliau ‘system-seiliedig’ nodedig sy’n cyfuno addysg uwch draddodiadol â gweithgareddau galwedigaethol, proffesiynol ac ymchwil academaidd a gyflwynir gyda thrylwyredd academaidd;
- cynnig cwricwlwm israddedig ac ôl-raddedig penodol, sy’n darparu priodoleddau nodedig ym meysydd cyflogadwyedd, mentergarwch, addysg gynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang ar gyfer graddedigion;
- ymroddedig i wireddu potensial pob myfyriwr unigol ac i gefnogi myfyrwyr ar bob cam o’u haddysg;
- arloesi gyda dulliau newydd ym maes dysgu seiliedig ar waith ac arfer proffesiynol sy’n cyfoethogi galluoedd y gweithlu a busnesau; ac sy’n
- ymrwymedig i bob agwedd ar ddatblygu cynaliadwy.
Gwybodaeth Gysylltiedig
Yn PCYDDS rydym yn cydnabod ac yn dathlu’r hyn y mae personél sy’n gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Fawrhydi yn ei wneud dros bob un ohonom yn y gymuned ehangach.

Noddfa

UWN is dedicated to creating a community of staff and students who support sustainability through social, economic, cultural and environmental responsibility.
