Skip page header and navigation

Cymorth Dysgu sydd ar gael

Rydym wedi ymrwymo i’ch llwyddiant academaidd ac yn credu bod taith addysgu pob myfyriwr yn unigryw. Mae ein Tîm Cymorth Dysgu wedi’i gynllunio i’ch grymuso â’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ragori yn eich astudiaethau.

P’un ai a ydych yn chwilio am help gyda strategaethau astudio, rheoli amser, neu bwnc penodol, mae ein tîm o addysgwyr profiadol a thiwtoriaid cymheiriaid yma i’ch helpu.   Gall pob myfyriwr gael mynediad i’n sesiynau Sgiliau Astudio a threfnu amser i weithio un-i-un gyda’n tîm sgiliau astudio.

Cymorth a Chyngor ar

01
Ysgrifennu Academaidd
02
Meddwl yn feirniadol
03
Adolygu ar gyfer Arholiadau
04
Cynllunio, Trefnu ac Ymchwilio
05
Sgiliau Cyflwyno
06
Cyfeirnodi ac Osgoi Llên-ladrad

Dysgu gyda Chymorth Cymheiriaid (PAL)

Cynllun dysgu gyda chymorth cymheiriaid yw Dysgu gyda Chymorth Cymheiriaid (PAL) sydd wedi’i greu i’ch helpu i ymgyfarwyddo â bywyd yn y brifysgol. Mae dechrau yn y brifysgol yn gallu bod yn gyfnod anodd i unrhyw un, a gall siarad â myfyrwyr sydd wedi bod trwy brofiad tebyg helpu.

  • Ydych chi’n fyfyriwr sydd wedi dechrau gyda ni yma yn PCYDDS am y tro cyntaf erioed?​  
  • Oes gennych chi gwestiynau sydd angen eu hateb?  
  • Ydych chi’n poeni am eich aseiniadau?  
  • Oes angen help arnoch i wybod â phwy ddylech chi siarad er mwyn cael cymorth?  
  • Hoffech chi siarad â myfyriwr presennol sy’n gwybod sut brofiad yw hi i fod yn fyfyriwr newydd?  

Os ydych chi wedi ateb YDW/OES i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, efallai y gallech elwa ar gael sgwrs gyda’n tîm o fentoriaid myfyrwyr PAL. Bydd un o fentoriaid PAL yn cysylltu â chi gyda mwy o fanylion os ydy PAL ar gael yn eich maes pwnc.  

  • P’un ai a ydych yn fyfyriwr a hoffai ddod i PAL, neu sydd â diddordeb mewn bod yn fentor, neu’n aelod o staff academaidd sydd â diddordeb i sefydlu gweithgarwch PAL yn eich maes pwnc eich hun, cysylltwch â goruchwyliwr PAL eich athrofa: 

    IEH (yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau) a WISA (Sefydliad Gwyddoniaeth a Chelf Cymru)
    Christopher Fleming

    IICL (Yr Athrofa Dysgu Canol Dinas)
    Margaret Gordon

    IMH (Yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd)
    Jo Kelleher

Testimonial

Fe wnes i wir fwynhau'r sesiynau PAL. Roedd fy mentor mor garedig a chyfeillgar ac roedd y sesiynau’n groesawgar ac yn llawn gwybodaeth. Rhoddodd wybod i mi am ganllawiau cyfeirnodi defnyddiol, helpodd fi i ddefnyddio gwefan y llyfrgell, a rhoddodd gyngor am ba fodiwlau y gallaf i eu hastudio y flwyddyn nesaf.