Pam dewis Y Drindod Dewi Sant?

Beth sy'n gwneud Prifysgol Cymru, Casnewydd yn unigryw?
Dechreuwch ar eich antur drwy astudio ar gyfer gradd israddedig yn PCYDDS. Byddwch yn ymgolli mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfa ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol wrth i chi fynd yn eich blaen. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, byddwn ni’n eich helpu chi i fwrw ati’n syth er mwyn i chi geisio cyrraedd eich nod.
links
Dewis o blith cannoedd o gyrsiau
Dysgu mewn dosbarthiadau lle mae eich llais yn cael ei glywed

Cewch deimlo’n hyderus ac yn gyfforddus wrth ofyn cwestiynau a chymryd rhan mewn trafodaethau. Mae ein dosbarthiadau’n cael eu cadw’n fach o ran maint, er mwyn rhoi’r sylw a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch oddi wrth ein tiwtoriaid arbenigol – gan wneud yn siŵr eich bod wir yn deall eich pwnc ac yn cael y gorau o’ch astudiaethau gradd.
Sicrhau’r Cymorth sydd ei angen arnoch i Ffynnu
Dod yn Fyfyriwr Graddedig sy’n Hawdd ei Gyflogi
Lleoliadau a Chyfleusterau Anhygoel
Gyda lleoliadau yn Abertawe, Caerfyrddin, Llambed, Caerdydd, Llundain a Birmingham, fe ddewch o hyd i’ch cartref oddi cartref yn PCYDDS. Dewch i ddarganfod ystafelloedd seminar ac ystafelloedd cyfrifiaduron hynod fodern, a mannau cydweithio newydd sbon – yn ogystal â chyfleusterau eraill anhygoel fel theatrau ar y campws, stiwdios i artistiaid, gweithdai arbenigol, campfeydd a neuaddau chwaraeon sydd ag offer newydd sbon, ardaloedd ymchwil, a llawer mwy.
Mae ein cyrsiau hefyd yn cyrraedd safle uchel

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Gwybodaeth Gysylltiedig
Sgwrsiwch gyda'n Myfyrwyr

P'un ai a ydych chi'n bwriadu astudio ar gyfer gradd baglor, meistr neu ddoethuriaeth, rydyn ni yma i'ch helpu chi i wneud y broses ymgeisio mor rhwydd â phosib

Rydym yn deall nad breuddwyd yn unig yw dilyn trywydd addysg uwch, ond buddsoddiad sylweddol yn eich dyfodol. Rydym nid yn unig wedi ymrwymo i ddarparu addysg wych i chi, ond profiad prifysgol gwych hefyd.
