
Llety Caerdydd
Llety yng Nghaerdydd
Os ydych yn bwriadu byw oddi cartref tra byddwch yn y brifysgol, mae’n debyg bod llety sydd ar frig eich rhestr o ystyriaethau. Mae poblogaeth enfawr o fyfyrwyr yn byw yng Nghaerdydd, ac felly bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn rhoi digon o ddewis i chi.
Darperir llety yng Nghaerdydd gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich tywys drwy eich opsiynau a chynnig cefnogaeth i chi trwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr gyda ni.
Bydd myfyrwyr sy’n aros mewn llety nad yw’n eiddo i’r brifysgol yn dal i allu defnyddio gwasanaethau fel y tîm iechyd meddwl, cyngor ariannol a mwy.
Bydd y swyddfa lety ar gael i gefnogi a rhoi cyngor ynghylch ble mae myfyrwyr PCYDDS yn aros er mwyn i chi allu bod o gwmpas myfyrwyr sy’n astudio gyda ni.