
Sut i gyrraedd ein campws Caerdydd
Teithio i Gaerdydd
Mae Caerdydd sy’n ddinas llawn cyfleoedd a photensial di-ben-draw, yn gartref i’n Campws Haywood House.
Oherwydd ei leoliad yng nghanol y Brifddinas, gall Haywood House gynnig y gorau o’r ddau fyd. Er mwyn hwyluso eich taith i gampws Caerdydd, dyma gyfarwyddiadau manwl ac opsiynau trafnidiaeth i’ch helpu.
Ein Lleoliad Campws Caerdydd
Teithio …
-
Mae Tŷ Haywood o fewn taith gerdded i ganol y ddinas, yr orsaf fysys ganolog a gorsaf drenau Caerdydd.
Cynlluniwch eich Taith
-
Gallwch gyrraedd Tŷ Haywood o nifer o lwybrau beicio Caerdydd sydd ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd.
Cynlluniwch eich Taith
-
Gallwch gyrraedd Tŷ Haywood ar wasanaethau bysys rheolaidd y ddinas.
Gallwch ddefnyddio Cynllunydd Myunijourney PCYDDS i’ch helpu i gynllunio eich taith fws.
-
Mae gan Orsaf Drenau Caerdydd gysylltiadau rheilffordd gwych gyda threnau’n rhedeg yn rheolaidd o ac i Gaerfyrddin, Abertawe, Gorsaf Picadilly Manceinion a Llundain. Gallwch gynllunio eich taith drên yn Traveline.cymru.
-
Mae Campws Caerdydd mewn lleoliad cyfleus ac â chysylltiadau da â phrif ffyrdd, yn cynnwys traffordd yr M4.
Mae nifer o opsiynau parcio yn ninas Caerdydd ond y maes parcio aml-lawr agosaf at Dŷ Haywood yw Plas Dumfries Caerdydd.
Cynlluniwch eich Taith

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Teithio Gwyrdd
Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.
Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.