
Pethau i'w Gwneud yn Llundain
Ymgollwch yn un o Ddinasoedd Mwyaf Bywiog a Deinamig y Byd
Crwydrwch trwy’r Ddinas
Mae Llundain yn adnabyddus am ei hamgueddfeydd a’i orielau byd enwog. Gall myfyrwyr ymweld â’r Amgueddfa Brydeinig, yr Oriel Genedlaethol, y Tate Modern, a llawer mwy er mwyn mwynhau ystod eang o arddangosfeydd celf, hanes a diwylliant.
Mae Llundain yn enwog am ei lleoliadau eiconig, fel Tŵr Llundain, Palas Buckingham, Senedd San Steffan, a’r London Eye. Gall myfyrwyr ymweld â’r mannau hyn i dynnu lluniau ac i ddysgu am hanes a diwylliant cyfoethog y ddinas.
Crwydrwch y Parciau a’r Gerddi

Crwydrwch y Parciau a’r Gerddi
Mae digonedd o barciau a gerddi hardd yn Llundain lle gall myfyrwyr ymlacio a hamddena. Gallwch gerdded o’r campws i Barc Kennington mewn dau funud. Mae Hyde Park, Regent’s Park, a St. James’s Park yn enghreifftiau o’r mannau gwyrdd lle gall myfyrwyr fwynhau picnics, mynd am dro, ac amrywiaeth o weithgareddau hamdden.
Mwynhewch Noson Allan
Mae Llundain yn llawn bwrlwm gyda’r hwyr, gyda digonedd o fariau, clybiau, a lleoliadau cerddoriaeth fyw. Gall myfyrwyr gerdded o’r campws i ardal Vauxhall mewn 15 munud. Mae ardaloedd eraill fel Shoreditch, Soho, neu Camden Town yn lleoedd gwych i gael blas ar fywyd nos amrywiol ac egnïol y ddinas.
Gan fod diwylliannau o bedwar ban byd yn cwrdd yn Llundain, gallwch fwynhau bwydydd o bob math yma. Rhowch gynnig ar amrywiaeth o fwydydd rhyngwladol mewn bwytai, mewn marchnadoedd bwyd stryd ac mewn gwyliau bwyd. Boed yn bryd Prydeinig traddodiadol neu’n flasau egsotig o bob cwr o’r byd, mae rhywbeth yma at ddant pawb.
Ewch i Ddigwyddiadau neu i’r West End
Mae amrywiaeth o wyliau a digwyddiadau yn Llundain trwy gydol y flwyddyn, a bydd rhywbeth i’ch difyrru waeth beth fo’ch diddordebau. O wyliau cerddorol fel Wireless a BST Hyde Park i ddigwyddiadau diwylliannol fel Carnifal Notting Hill a’r Winter Wonderland yn Hyde Park, gall myfyrwyr ymgolli yn awyrgylch bywiog y ddinas.
Mae West End Llundain yn enwog am gynyrchiadau theatr o’r radd flaenaf, a gall myfyrwyr fynd i weld sioe yn un o theatrau niferus yn yr ardal, boed yn ddrama glasurol neu’n sioe gerdd fodern.
Mae tocynnau yn aml ar gael yn rhatach i fyfyrwyr, felly gall fod yn ffordd fforddiadwy o weld hud perfformiad byw!

Darganfyddwch Farchnadoedd Stryd
Mae Llundain yn enwog am ei marchnadoedd stryd bywiog, lle gallwch brynu amrywiaeth eang o nwyddau a bwyd blasus. Ewch i grwydro marchnadoedd fel Borough Market, sy’n daith 10 munud mewn car o’r campws.
Bywyd ar y Campws
Mae campws yr Oval yn cynnig profiad unigryw i fyfyrwyr yn Llundain. Mae wedi’i leoli mewn ardal fywiog, lle gall myfyrwyr dreulio’u hamser yn y caffis, y siopau a’r bwytai lleol. Ar y campws ei hun mae cyfleusterau modern a chymuned gefnogol, sy’n ei wneud yn lle delfrydol i astudio ac i gymdeithasu.