
Cysylltiadau Allanol
Cysylltiadau Allanol
Mae Swyddfar Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch (OIA) yn gweithredu cynllun annibynnol ar gyfer cwynion myfyrwyr yn unol â Deddf Addysg Uwch 2004. Mae’n ofynnol i bob sefydliad addysg uwch yng Nghymru a Lloegr gydymffurfio â Rheolaur cynllun, y gellir eu gweld ar wefan yr OIA http://www.oiahe.org.uk/. Maer OIA yn delio â chwynion gan unigolion yn erbyn sefydliadau addysg uwch ac maer gwasanaeth yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr.
Cyn gwneud cwyn ir OIA, rhaid i fyfyrwyr ddilyn prosesau mewnol y Brifysgol ar gyfer cwynion ac apeliadau yn gyntaf. Gall myfyrwyr syn anfodlon ar y canlyniad fod âr hawl i gwyno ir OIA cyhyd â bod eu cwyn yn gymwys o dan ei Reolau.
Bydd rhaid i fyfyrwyr anfon Ffurflen Gais y Cynllun i’r OIA o fewn tri mis ar ôl cwblhau eu llythyr Cwblhau Gweithdrefnau. Gellir cael Ffurflen Gais y Cynllun o’r Uned Sicrhau Ansawdd a gellir hefyd eu llwytho i lawr o wefan yr OIA http://www.oiahe.org.uk/. Dylai myfyrwyr anfon copi ou llythyr Cwblhau Gweithdrefnau ir OIA ynghyd â Ffurflen Gais y Gynllun.