Bywyd Campws Birmingham

Y Ganolfan Ddiwylliant
Ymgollwch mewn Diwylliant
Ymgollwch ym mwrlwm Birmingham, dinas sy’n enwog am ei phobl, ei bwyd a’i gwyliau diwylliannol - bydd rhywbeth i’ch difyrru trwy’r adeg. Mae PCYDDS Birmingham yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau arloesol sydd wedi’u cynllunio er mwyn eich paratoi ar gyfer byd gwaith. A’r cyfan mewn dinas sy’n llawn cyfleoedd.
Birmingham, metropolis brysur sy’n llawn o hanes a diwylliant. Gyda’i hadeiladau eiconig, fel y Bullring ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Birmingham, ei rhwydweithiau o gamlesi prysur a’i pharciau gwyrdd, dyma ddinas sy’n ymfalchïo yn ei chymysgedd fyrlymus o’r modern a’r traddodiadol.
Explore our Carmarthen Campus
Pam Birmingham

Profiad Newydd
Gyda dau gampws, un ar Stratford Road yn ardal fywiog Sparkhill a’r llall ar un o gamlesi prysur canol y ddinas, mae PCYDDS Birmingham yn cynnig cyfle i bobl gael addysg uwch, waeth beth fo’u cefndir.
Gyda chyrsiau sy’n canolbwyntio ar fusnes, cyfrifiadura, iechyd a gofal cymdeithasol, bydd campysau PCYDDS Birmingham yn eich paratoi ar gyfer y gweithle.
Mae ein dau gampws yn cynnig amrywiaeth o opsiynau hyblyg, sy’n golygu y gallwch chi addasu eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau gwaith neu gyfrifoldebau teuluol.
Canolbarth Lloegr

Canolbarth Lloegr
Mae’r dyfodol yn ddisglair yma, gyda chysylltiadau gwych â Llundain, Bryste, Caerdydd, Sheffield, Manceinion a Lerpwl – a’r cyfan o fewn dwy awr o daith ar y trên.
Rydym hefyd yn canolbwyntio ar chwalu’r rhwystrau at addysg a sicrhau cyfle cyfartal i bawb, sy’n golygu y gallwch chi fod yn sicr o raglenni hyblyg a gofynion mynediad sy’n ystyried eich amgylchiadau unigol.
Beth Fyddwch chi'n ei Astudio

Beth Fyddwch chi'n ei Astudio
Gyda chyrsiau sy’n canolbwyntio ar fusnes, cyfrifiadura, iechyd a gofal cymdeithasol, bydd campysau PCYDDS Birmingham yn eich paratoi ar gyfer y gweithle.
Mae ein dau gampws yn cynnig amrywiaeth o opsiynau hyblyg, sy’n golygu y gallwch chi addasu eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau gwaith neu gyfrifoldebau teuluol.
Birmingham Open Day

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Sut i gyrraedd ein campws yn Birmingham

Sut i gyrraedd ein campws yn Birmingham
Mae ein Campws yn Birmingham mewn dau leoliad. Mae Quay Place mewn ardal fywiog ger y gamlas yng nghanol y ddinas, a’r ail leoliad ar Stratford Road yn ardal llawn egni Sparkhill.