
Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin
Cyflwyniad
Mae Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin yn cynnal digwyddiadau therapiwtig mewn lleoliadau awyr agored naturiol. Wedi’i sefydlu yn 2022 yn agos i dref Caerfyrddin, mae’r Hwb yn cynnig canolfan ar gyfer ystod o weithgareddau, gan gynnwys:
- Teithiau cerdded synhwyraidd
- teithiau cerdded iechyd
- gwneud tanau
- gwau helygen fyw
- tendio i’r ardd gymunedol
A mwy!
Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i gynnal gweithgareddau sy’n hyrwyddo llesiant, bondio cymdeithasol, a gwybodaeth am y byd naturiol.
Beth sydd Ymlaen
Rydym yn cynnig amserlen o weithgareddau rheolaidd yn ogystal â rhai digwyddiadau arbennig. Dewch nôl yn rheolaidd i weld beth sydd ymlaen y mis yma.
Mae’r holl weithgareddau’n rhad ac am ddim oni ddywedir fel arall.
E-bost: a.williams1@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07902 848323
Sesiynau Galw Heibio: 10am i 1pm
I archebu eich ll am ddim, cysylltwch â Becky.
E-bost: beckybrandwoodcormack@smallwoods.org.uk
Ffôn: 07786 916954
Dyddiad | Pwy ddylai ddod? | Gweithgareddau |
---|---|---|
Dydd Iau 22 Chwefror | Oedolion | Gwylltgrefft a naddu |
Dydd Sadwrn 23 Mawrth | Oedolion a theuluoedd | Inciau carreg a llifynnau naturiol |
Dydd Iau 25 Ebrill | Oedolion | Chwedlau Cymreig, fforio ac ychydig o Gymraeg llafar |
Dydd Iau 23 Mai | Oedolion | Naddu a gwaith coed gwyrdd |
Dydd Iau 20 Mehefin | Oedolion | Gwylltgrefft, rheffynwaith naturiol a gwehyddu |
Dydd Sadwrn 27 Gorffenaf | Oedolion | Tyfu llysiau, cysylltu â natur ac ymwybbyddiaeth ofalgar |
Dydd Sadwrn 24 Awst | Oedolion a theuluoedd | Gwehyddu helyg |
Dydd Sadwrn 28 Medi | Oedolion a theuluoedd | Printio leino a phrintio/cerfio coed wedi’i ysbrydoli gan natur |
Dydd Sadwrn 26 Hydref | Oedolion a theuluoedd | Canu wedi’i ysbrydoli gan natur |
Dydd Iau 21 Tachwedd | Oedolion | Coginio ar dân gwersyll a fforio yn y gaeaf |
Dydd Iau 12 Rhagfyr | Oedolion | Gwylltgrefft ac adrodd straeon |

Teithiau Cerdded Pwrpasol
Amser/dyddiad hyblyg

Teithiau Cerdded Synhwyraidd
Rydym yn cynnig teithiau cerdded Synhwyraidd. Rydym wedi eu creu gyda phobl ag anableddau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol anabledd mewn golwg, er bod croeso i bawb ymuno ag un. Ar y teithiau cerdded hyn, gallwch archwilio’r byd o’ch cwmpas trwy olwg, arogl, clyw a chyffwrdd.
Cysylltwch ag Andrew Williams yn a.williams@pcydds.ac.uk neu ffoniwch 07902 848323 i ddysgu rhagor a thrafod yr opsiynau.
Chwefror 2024
Dydd Mawrth 6ed
Chwefror 2024
10.30am–12pm

Teithiau Cerdded Iechyd Wythnosol
Ymunwch â ni ar ein teithiau cerdded iechyd wythnosol, sy’n dechrau ar ddydd Mawrth 6ed Chwefror am 10.30am.
Cysylltwch ag Andrew Williams ar a.williams1@pcydds.ac.uk neu ffoniwch 07902 848323 am ragor o wybodaeth neu i gofrestru.
Lleoliad
Mae’r Hwb wedi’i lleoli llai na dwy filltir o ganol Caerfyrddin. Wedi’i lleoli mewn cae yng nghanol coetir a thir fferm ac yn edrych dros yr Afon Tywi, mae ein lleoliad tawel yn ddelfrydol i archwilio’r awyr agored, dysgu sgiliau ymarferol, neu eistedd wrth y llosgwr pren gyda’r nos.
Dim ond trwy drefnu gydag Andrew Williams ymlaen llaw y ceir mynediad i’r safle.
Cyfeiriad
Cynefin, Heol Llansteffan, Caerfyrddin SA31 3QU
Teithio
Cyrraedd mewn Car
Mae lle parcio ar gael ar y safle.
Mewn car, mae’r Hwb bum munud o Gaerfyrddin, neu un awr o Abertawe gan ddilyn yr M4 a’r A48.
Cyrraedd mewn Cludiant Cyhoeddus
Mae gwasanaethau bws 226 a 227 Caerfyrddin yn stopio ar Heol Llansteffan, taith fer ar droed o’r Hwb. Nid ydynt yn rhedeg ar ddyddiau Sul.
Mynediad i Bobl Anabl
Ar hyn o bryd rydym yn datblygu gwelliannau i’n mynediad i bobl anabl.
Mynediad ar Droed
Gallwch gerdded i’r Hwb o Gaerfyrddin mewn tua 30 munud ar hyd llwybr troed sy’n dilyn yr Afon Tywi.
Oriel
Cysylltwch â Ni
Cysylltwch â ni os hoffech wybod rhagor am lunio partneriaeth gyda’r Hwb Iechyd Gwyrdd neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hyn rydym yn ei gynnig.
E-bost: a.williams1@pcydds.ac.uk
Ffôn: 0790 2848323
