
Sut i gyrraedd ein campws Llundain
Teithio i Lundain
Mae Llundain yn ddinas ddeinamig a chyfareddol sy’n cynnig profiad addysg o’r radd flaenaf. Mae gennym ddau gampws yn y ddinas, un yn Winchester House a’r llall yn Salisbury House.
Mae’r canllaw cynhwysfawr hwn wedi’i gynllunio i helpu myfyrwyr, ymwelwyr ac aelodau staff gyrraedd ein campysau prysur a bywiog yng nghanol Llundain.
Lleoliad ein Campws yn Llundain
Dull teithio
-
Mae Winchester House o fewn taith gerdded fer 150 metr i ffwrdd o orsaf yr Oval.
-
Mae Winchester House yn gyfleus i nifer o lwybrau Beicio Lambeth sydd i’w gweld yn safle Cyngor Lambeth.
-
Mae Campws Llundain yn gyfleus i’r gwasanaethau bws rheolaidd ledled y ddinas.
Cynlluniwch eich taith ymlaen llaw gan ddefnyddio gwefannau neu apiau National Express a Transport for London (TfL) er mwyn gwneud y gorau o’ch amser yma.
-
Mae Campws Llundain yn gyfleus i’r gwasanaethau bws rheolaidd ledled y ddinas.
-
Mae gan Lundain brif linellau trên o bob rhan o’r DU. Gallwch gyrraedd ein campysau yn hawdd o brif orsafoedd rheilffordd Llundain, fel King’s Cross, Paddington, Euston, a Victoria, trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu deithiau tacsi byr.
Rydym yn eich cynghori i gynllunio eich taith gan ddefnyddio National Rail Enquiries.

Teithio Gwyrdd
Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.
Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.