
Cyfleusterau Celf a Dylunio Sylfaen
Introduction
Mae’r cwrs Sylfaen wedi’i leoli mewn stiwdio fawr, agored, brydferth yng Nghyfnewidfa Ddylunio ALEX, a adnewyddwyd yn ddiweddar, ac yma oedd lleoliad cyntaf y cwrs dros 100 mlynedd yn ôl. Rydym yn gweithio ar draws Campysau Alex a Dinefwr sy’n cynnig mynediad llawn i fyfyrwyr at weithdai, cyfleusterau ac adnoddau pwrpasol yn y Coleg Celf.

Yr Ysgol Gelf
Mae gan y Coleg Celf rai o gyfleusterau gorau’r ardal, gan gynnwys offer traddodiadol a thra modern sydd ar gael i’r holl fyfyrwyr fanteisio arnynt. Mae’r myfyrwyr sylfaen yn cael mynediad i feysydd astudio arbenigol megis: Gwneud printiau, Ystafelloedd tywyll ffotograffiaeth, Adeiladu mewn gweithdy â chyfarpar llawn, Argraffu 3D, Torri â laser, Cerameg a Gwydr, mannau gwaith digidol gyda chyfrifiaduron personol a Mac.

Profiad a Sgiliau
Rydym yn cynnal ethos a hud y cwrs Sylfaen, gan alluogi i fyfyrwyr adeiladu sail o brofiad a sgil wrth ddarganfod meysydd newydd nad ydynt efallai wedi cael y cyfle i’w harchwilio o’r blaen. Credwn fod hyn yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ar lefel gradd ac yn hollbwysig o ran gwneud y penderfyniad iawn ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol yn y dyfodol.
Oriel
Mynediad a rennir
Trefnir mynediad i ardaloedd eraill y Gyfadran trwy weithdai, fodd bynnag, mae gan Goleg Celf Abertawe bolisi o ganiatáu mynediad a rennir i’n holl gyfleusterau.