Amdanom

Amdanom ni
Mae cenhadaeth Prifysgol Cymru, Casnewydd yn uchelgeisiol. Ein nod yw trawsnewid addysg, a thrwy hynny drawsnewid bywydau’r unigolion a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae’r Brifysgol yn rhan o Grŵp PCYDDS, cydffederasiwn o nifer o wahanol sefydliadau, gan gynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Ym mis Awst 2017, cafodd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu hintegreiddio. Mae Grŵp PCYDDS yn cynnig gwasanaeth di-dor o addysg bellach hyd addysg uwch, a hynny er budd dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau.
Yn 2023, lansiwyd Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru (UWTI) gyda Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn ogystal â’n partneriaid Addysg Bellach, Coleg Caerdydd a’r Fro, Grŵp Colegau NPTC a Choleg Sir Benfro, gyda’r nod o ddatblygu addysg dechnegol uwch a hyfforddiant ac arloesedd dan arweiniad cyflogwyr. Gan weithio o fewn strwythur cyd-ffederasiwn, mae Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru yn ystyried anghenion cyflogwyr a’i nod yw hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol.
Mae hanes y Brifysgol yn dechrau yn ôl yn 1822, pan sefydlwyd ein campws yn Llanbedr Pont Steffan. Dyma fan geni addysg uwch yng Nghymru, a Siarter Frenhinol 1828 y Brifysgol yw’r hynaf o holl sefydliadau Cymru.
Heddiw, mae’r Brifysgol yn sefydliad deinamig, gyda champysau yn Abertawe, Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan, Caerdydd, Llundain a Birmingham.
Myfyrwyr fel Partneriaid

Myfyrwyr fel Partneriaid
Y dysgwr sydd bwysicaf yng Ngrŵp PCYDDS, a mae’n hymroddiad i ddarparu profiad dysgu rhagorol yn sail i’n holl weithgareddau. Rydym yn credu bod addysg yn newid bywydau, a, thrwy ein gwaith gydag Undeb y Myfyrwyr, rydym wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial o fewn amgylcheddau dysgu sy’n groesawgar, yn gynhwysol, yn gefnogol ac yn ddiogel.

Cwricwlwm sy’n ysbrydoli
Mae ein cwricwlwm wedi’i gynllunio er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu’r nodweddion bydd eu hangen arnynt mewn gweithleoedd modern a thechnolegol. Ein nod yw datblygu graddedigion ac ymarferwyr myfyriol sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth i gymdeithas. Un o’n gwerthoedd sylfaenol yw ein hymroddiad i ddatblygu cynaliadwy a’r amgylchedd. Dyma themâu sydd wedi’u hymgorffori ym mhrofiad y myfyrwyr yma, gan alluogi graddedigion PCYDDS i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r nodweddion y byddan nhw’u hangen, ble bynnag yr ânt yn y dyfodol.

“Prifysgol gysylltiedig”
Mae ein cwricwlwm wedi’i gynllunio er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu’r nodweddion bydd eu hangen arnynt mewn gweithleoedd modern a thechnolegol. Ein nod yw datblygu graddedigion ac ymarferwyr myfyriol sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth i gymdeithas. Un o’n gwerthoedd sylfaenol yw ein hymroddiad i ddatblygu cynaliadwy a’r amgylchedd. Dyma themâu sydd wedi’u hymgorffori ym mhrofiad y myfyrwyr yma, gan alluogi graddedigion PCYDDS i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r nodweddion y byddan nhw’u hangen, ble bynnag yr ânt yn y dyfodol.

Buddsoddi yn ein campysau
Mae ein campysau’n ganolfannau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol sy’n hwyluso’r gwaith o gyflawni ein cenhadaeth ddinesig. Rydym wedi esblygu dros y ddwy ganrif ddiwethaf, gan drawsnewid ein cynnig academaidd mewn ymateb i anghenion cymdeithasol ac economaidd y dydd. Rydym yn gweithio gyda’n cymunedau ar lawr gwlad er mwyn darparu cyfleoedd trawsnewidiol, gan ddatblygu eu gallu a’u gwytnwch a chan greu cyfleoedd i atgyfnerthu eu hymdeimlad o le a’r hyn sy’n eu gwneud yn unigryw.

Troi syniadau’n gyfleoedd go iawn
Rydym yn enwog am ein menter a’n harloesedd, ac am alluogi ein staff a’n myfyrwyr i droi eu syniadau’n gyfleoedd ac yn ddatrysiadau busnes go iawn. Rydym yn canolbwyntio ar gael effaith ac ar fynd i’r afael â heriau mwyaf cymdeithas, gan weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr a chan ddarparu’r sgiliau y mae myfyrwyr a graddedigion eu hangen er mwyn ffynnu.
O ymchwil ac arloesi trosiadol, i sgiliau technegol cymhwysol a menter, rydym yn meithrin gallu ein cymunedau, yn cefnogi cyflogwyr, yn hwyluso creu swyddi, ac yn denu buddsoddiad i’n cymunedau.