
Rhyddid Gwybodaeth
Deddf Rhyddid Gwybodaeth
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i bobl ofyn am wybodaeth gan y Brifysgol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus. Nod y Ddeddf yw hyrwyddo diwylliant o dryloywder ac atebolrwydd ymhlith holl gyrff y sector cyhoeddus a thrwy hynny hwyluso gwell dealltwriaeth ymysg y cyhoedd o’r modd y mae awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau a sut maent yn gwario arian cyhoeddus.
Dilynwch y camau canlynol os hoffech wneud cais am wybodaeth am y Brifysgol:
- Os hoffech weld gwybodaeth bersonol/data personol a allai fod yn cael ei gadw gan y Brifysgol, ewch i adran Diogelu Data PCYDDS neu llenwch Ffurflen Cais am fynediad at ddata gan y testun.
- Os hoffech wneud cais am unrhyw wybodaeth arall, gwiriwch yn gyntaf i weld a yw’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch eisoes wedi’i chyhoeddi trwy Gynllun Cyhoeddi PCYDDS
- Os nad yw’r wybodaeth eisoes wedi’i chyhoeddi a’ch bod yn dymuno gwneud cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, anfonwch e-bost neu fel arall ysgrifennwch at:
Y Swyddog Diogelu Data
Prifysgol Cymru, Casnewydd
Campws Busnes Abertawe
Stryd Fawr, Abertawe
SA1 1NE
Gofyn am wybodaeth
Dylai eich cais am Ryddid Gwybodaeth gynnwys:
- Eich enw.
- Y cyfeiriad yr hoffech i’r ymateb gael ei anfon iddo (cyfeiriad e-bost neu bost)
- Disgrifiad manwl o’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
- Y fformat yr hoffech dderbyn y wybodaeth, er enghraifft: yn y Gymraeg, mewn taenlen, gwybodaeth mewn Braille neu mewn print bras.
Nod y Brifysgol yw ymateb i geisiadau o fewn yr amserlen statudol o 20 diwrnod gwaith. Efallai bydd Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol yn cysylltu â chi i gael eglurhad ynglŷn â’ch cais. Os gofynnwyd am eglurhad, bydd y cyfnod o 20 diwrnod gwaith yn cael ei ohirio nes y derbynnir eglurhad gennych.
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn diffinio nifer o eithriadau a allai atal y wybodaeth y gofynnoch amdani rhag cael ei rhyddhau. Mae’r rhain yn cael eu hegluro’n fanwl ar Wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Pan fydd y Brifysgol yn penderfynu bod angen defnyddio unrhyw un o’r eithriadau hyn, byddwch yn cael eglurhad, gan ddyfynnu’r eithriad perthnasol, ac eglurhad o’ch hawl i apelio.
Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw geisiadau blinderus neu ailadroddus. Gall hyn gynnwys ceisiadau dro ar ôl tro gan yr un person, neu gan nifer o bobl sy’n ymddangos eu bod yn gweithio gyda’i gilydd, yn gofyn am yr un wybodaeth, neu’n gwneud ceisiadau y bwriedir iddynt darfu ar waith y Brifysgol.
Adolygiad Rhyddid Gwybodaeth a’r Broses Apelio
Os ydych, ar ôl cael ymateb i gais ysgrifenedig am wybodaeth, yn anfodlon â’r canlyniad, mae gennych hawl yn y lle cyntaf i ofyn am adolygiad o’r ymateb. Rhaid i bob cais am adolygiad gael ei anfon yn ysgrifenedig i:
Y Swyddog Diogelu Data
Prifysgol Cymru, Casnewydd
Campws Busnes Abertawe
Stryd Fawr, Abertawe
SA1 1NE
Neu drwy e-bost.
Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan uwch aelod o staff PCYDDS (“yr adolygydd”)
Er mwyn bwrw ymlaen gyda’ch adolygiad cyn gynted â phosibl, dyfynnwch gyfeirnod y cais (F20/xx) a dyddiad eich cais gwreiddiol, yn ogystal â manylion am y rheswm dros wneud cais i gynnal yr adolygiad. Dylech gynnwys manylion cyswllt llawn, gan gynnwys rhif ffôn lle bo hynny’n bosibl, rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi yn ystod y broses adolygu. Byddwn yn cydnabod derbyn eich cais am adolygiad yn ysgrifenedig. Yn dilyn yr adolygiad, byddwch yn cael ymateb gan yr adolygydd a fydd yn cynnwys y canlyniad a’r camau gweithredu priodol y bydd PCYDDS yn eu cymryd yn sgil hynny.
Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad yr adolygiad, mae gennych yr hawl i apelio yn uniongyrchol at y Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yma: -
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Cysylltwch a Ni
Paul Osborne
Swyddog Diogelu Data
Rhif: 01792 481180
E-bost: foi@UWN.ac.uk
Campws Busnes Abertawe
Prifysgol Cymru, Casnewydd
High Street,
Abertawe, SA1 1NE