Skip page header and navigation

Cais am fynediad at ddata gan y testun (SAR)

Mae GDPR a’r Ddeddf Diogelu Data (y deddfau diogelu data) yn rhoi hawl i unigolion gael mynediad at y data personol y mae sefydliadau, PCYDDS yn yr achos hwn, yn ei gadw amdanynt, yn amodol ar rai eithriadau.​ Cais am fynediad at ddata gan y testun (SAR) yw’r enw a roddir ar y cais am fynediad at ddata personol. Mae’r dudalen hon yn egluro sut i gyflwyno cais am fynediad at ddata gan y testun i’r Brifysgol, sut y byddwn yn ymdrin â’ch cais, a’ch hawl i gwyno os ydych yn anfodlon â’r ymateb.​

Gofyn am wybodaeth

  • Cyflwynwch eich Ffurflen Cais am fynediad at ddata gan y testun gan gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn ein galluogi i ddod o hyd i’ch gwybodaeth. Er enghraifft, os mai dim ond Data Personol sy’n ymwneud â’ch cofnod academaidd yr ydych ei eisiau, dylech nodi hynny.​ Mae cais cyffredinol fel “a wnewch chi anfon yr holl Ddata Personol sydd gennych amdanaf ataf” yn debygol o arwain at gais gennym ni am ragor o wybodaeth neu eglurhad pellach.  Pan fyddwch yn cyflwyno’ch ffurflen SAR rydym yn gofyn am brawf o bwy ydych chi er mwyn sicrhau ein bod yn rhyddhau Data Personol i’r person cywir.
  • Unwaith y bydd Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol wedi derbyn y ffurflen SAR a bod y wybodaeth y gofynnwyd amdani wedi’i chadarnhau, byddwn yn dechrau ar y broses o gysylltu â chydweithwyr perthnasol a chasglu’r wybodaeth.
  • Rydym yn adolygu’r wybodaeth rydym wedi’i derbyn er mwyn sicrhau nad yw’n cynnwys data personol unrhyw unigolyn arall (trydydd parti) y mae angen ei olygu (dileu) gan nad yw’n berthnasol i’ch cais. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw olygu a wnaed yn ein llythyr eglurhaol/e-bost. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu’r holl wybodaeth o fewn yr amserlen briodol (mis calendr neu lai). Sylwch y gall y gwaith o adolygu cais SAR mawr (o ran maint y gwaith papur) fod yn sylweddol a gall gymryd cryn dipyn o amser, ac efallai y byddwn yn gofyn am ragor o amser er mwyn ein galluogi i gwblhau’r gwaith.
  • Pan fydd y wybodaeth wedi’i hadolygu byddwn yn cysylltu â chi ac yn cadarnhau’r manylion er mwyn ei rhyddhau i chi. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani, gallwch eu trafod gyda ni drwy e-bost.  
     
  • Mae’n bwysig nad ydym yn cadw eich data personol am fwy o amser nag sydd ei angen a bydd gwybodaeth yn cael ei dileu yn unol ag amserlen cadw cofnodion y Brifysgol.​
  • Os ydych yn anfodlon â’r ymateb i’r cais am fynediad at ddata gan y testun, gallwch wneud cais am adolygiad:

Rhaid i bob cais am adolygiad gael ei wneud yn ysgrifenedig i:

Y Swyddog Diogelu Data
Prifysgol Cymru, Casnewydd
Campws Busnes Abertawe
Stryd Fawr, Abertawe
SA1 1NE

Neu drwy e-bost.

Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan uwch aelod o staff PCYDDS (“yr adolygydd”)

Er mwyn bwrw ymlaen gyda’ch adolygiad cyn gynted â phosibl, dyfynnwch gyfeirnod y cais (D20/xx) a dyddiad eich cais gwreiddiol, yn ogystal â manylion am y rheswm dros wneud cais i gynnal yr adolygiad. Dylech gynnwys manylion cyswllt llawn, gan gynnwys rhif ffôn lle bo hynny’n bosibl, rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi yn ystod y broses adolygu.  Byddwn yn cydnabod derbyn eich cais am adolygiad yn ysgrifenedig. Yn dilyn yr adolygiad, byddwch yn cael ymateb gan yr adolygydd a fydd yn cynnwys y canlyniad a’r camau gweithredu priodol y bydd PCYDDS yn eu cymryd yn sgil hynny. 

Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad yr adolygiad, mae gennych yr hawl i apelio yn uniongyrchol at y Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yma:

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF