Bywyd Campws Llundain

Addysg Fyd-eang, Bwrlwm y Ddinas Fawr
Nid yng Nghymru yn unig y mae PCYDDS, rydym yn Llundain hefyd. Campws bychan, dosbarthiadau llai, ond egni mawr y ddinas.
Yma, rydym yn canolbwyntio ar fusnes a sgiliau cymhwysol ar gyfer y gweithle, a byddwch yn datblygu eich sgiliau mewn lle sy’n llawn brandiau byd-eang, busnesau annibynnol a busnesau newydd cyffrous. Byddwch wedi eich lleoli ar ein campws cyfeillgar a chroesawgar – a byddwch yn treulio tair blynedd yn byw yn un o ddinasoedd mwyaf cyffrous y byd.
Crwydro Campws Llundain
Pam Llundain?
Mae PCYDDS Llundain yn rhoi cyfle i chi ymgolli yn un o ddinasoedd mwyaf bywiog a chyffrous y byd. Byddwch yn cael eich addysgu gan dîm o staff profiadol a fydd yn eich helpu i gyflawni eich uchelgeisiau a’ch nodau mewn amgylchedd agored a chynhwysol.
Beth bynnag yw eich cefndir, cewch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi i ffynnu – gan gynnwys gweithdai ysgrifennu academaidd a dadansoddi beirniadol yn ogystal â chyngor gyrfaoedd a gwasanaethau myfyrwyr. Mae ein campws yn y brifddinas wedi’i ddylunio i fod yn amgylchedd dysgu sydd â ffocws, sy’n gyfeillgar ac yn ddiddorol.
Cewch gyfle i feithrin cysylltiadau proffesiynol ac academaidd hir eu parhâd gyda’ch darlithwyr ac ag aelodau staff. Ac os oes gennych chi ymrwymiadau neu gyfrifoldebau eraill, fel swydd neu deulu, rydym yn cynnig rhaglenni hyblyg sy’n caniatáu i chi ddefnyddio’r hyn rydych chi’n ei ddysgu ar unwaith.
What You’ll Study

Ymgollwch ym Mrifddinas Diwylliant
Torrwch eich cwys eich hunan mewn dinas sy’n ffynnu ar wahaniaeth, amrywiaeth a pherthyn. Cewch fwyta bwyd o bob cwr o’r byd ac ymweld ag arddangosfeydd gan artistiaid rhyngwladol.
Mwynhewch y gigs, y cyngherddau a’r nosweithiau clwb di-ben-draw gan gerddorion, perfformwyr a DJs byd-enwog. Mae lle i bawb yn Llundain.
Beth Fyddwch chi'n ei Astudio

Beth Fyddwch chi'n ei Astudio
Gyda chyrsiau sy’n canolbwyntio ar fusnes, cyfrifiadura, iechyd a gofal cymdeithasol, bydd campysau PCYDDS Llundain yn eich paratoi ar gyfer y gweithle - ac ar gyfer gwneud argraff ar gyflogwyr.
Mae ein campws yn Llundain yn cynnig rhaglenni hyblyg, sy’n golygu y cewch ddigonedd o amser i ryngweithio ac i ddod i adnabod eich athrawon a’ch cyd-fyfyrwyr. A chan y byddwch chi’n astudio yn un o ganolfannau busnes mwyaf y byd, byddwch yn creu cysylltiadau â pha bynnag ddiwydiant sydd o ddiddordeb i chi.
Book an Open Day

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Sut i gyrraedd ein campws yn Llundain

Sut i gyrraedd ein campws yn Llundain
Mae Llundain yn ddinas ddeinamig a chyfareddol sy’n cynnig profiad addysg o’r radd flaenaf. Mae gennym ni ddau gampws yn y ddinas, un yn Winchester House a’r llall yn Salisbury House.