
Unplygrwydd a Moeseg Ymchwil
Unplygrwydd a Moeseg Ymchwil
Mae Prifysgol Cymru, Casnewydd wedi ymrwymo i gynnal safonau moesegol uchel yn yr ymchwil a wneir gan ei staff a’i myfyrwyr, pa un a yw’r ymchwil yn derbyn cefnogaeth uniongyrchol gan y Brifysgol neu’n cael ei ariannu gan ffynonellau allanol.
Mae’r Brifysgol yn cydnabod ei rhwymedigaethau o dan y Concordat i Gefnogi Integredd Ymchwil i sicrhau bod ymchwil a wneir dan nawdd y Brifysgol yn cael ei gynnal i safonau priodol, ac yn cydymffurfio ag egwyddorion ac arferion moesegol a dderbynnir yn gyffredinol ym maes ymddygiad a llywodraethu.
Goruchwylir y rhwymedigaethau hyn gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol a cheir y manylion yn y Cod Ymarfer Moeseg ac Integredd Ymchwil 2022.
Cred y Brifysgol fod adolygu a chymeradwyo moeseg ymchwil yn bwysig am y rhesymau canlynol:
- Gwella ansawdd ac integredd ymchwil;
- Diogelu hawliau a llesiant cyfranogwyr a lleihau’r risg o anesmwythder, niwed a pherygl corfforol a meddyliol yn sgil gweithdrefnau ymchwil;
- Diogelu llesiant ymchwilwyr a’u hawl i gynnal archwiliadau cyfreithlon;
- Lleihau’r posibilrwydd o hawliadau am esgeulustod yn erbyn y Brifysgol, ei hymchwilwyr ac unrhyw unigolyn neu sefydliad sy’n cydweithredu â hi;
- Sicrhau enw da’r Brifysgol am y gwaith ymchwil y mae’n ei gynnal ac yn ei noddi;
- Sicrhau y cynhelir ymchwil yn unol â’r fframweithiau, y rhwymedigaethau a’r safonau moesegol, cyfreithiol a phroffesiynol priodol;
- Cefnogi amgylchedd ymchwil sy’n seiliedig ar ddiwylliant o integredd ynghyd â llywodraethu da, arfer gorau a chymorth i ddatblygu ymchwilwyr;
- Sicrhau bod prosesau tryloyw, cadarn a theg ar gyfer ymdrin â honiadau o gamymddwyn mewn ymchwil, pe baent yn codi;
- Gweithio gyda sefydliadau eraill yn ôl y gofyn o bryd i’w gilydd i gryfhau integredd ymchwil ac adolygu cynnydd yn rheolaidd ac yn agored.
Mae’r gweithdrefnau a’r canllawiau a amlinellir yn y cod ymarfer hwn yn berthnasol i’r holl staff academaidd a gweinyddol, y rhai sy’n dal swyddi er anrhydedd yn y brifysgol a’r holl fyfyrwyr sy’n gwneud prosiectau ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig yn rhan o gyrsiau israddedig, ôl-raddedig a chyrsiau byr a rhaglenni ymchwil y mae myfyrwyr wedi cofrestru arnynt yn y Brifysgol, a/neu’n cael eu goruchwylio gan staff yn y Brifysgol.
Yr eithriad fydd achosion lle mae’r Prif Ymchwilydd wedi’i gofrestru mewn man arall ar yr amod bod y prosiect ymchwil wedi’i gymeradwyo gan bwyllgor moeseg cyfatebol yn dilyn adolygiad moeseg ar lefel gyffelyb.