
Llety Llundain
Llety yn Llundain
Os ydych yn bwriadu byw oddi cartref tra byddwch yn y brifysgol, mae’n debyg mai llety sydd ar frig eich rhestr o ystyriaethau. Mae poblogaeth enfawr o fyfyrwyr yn byw yn Llundain, ac felly bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn rhoi digon o ddewis i chi.
Darperir llety yn Llundain gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich tywys drwy eich opsiynau a chynnig cefnogaeth i chi trwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr gyda ni.
Bydd myfyrwyr sy’n aros mewn llety nad yw’n eiddo i’r brifysgol yn dal i allu defnyddio gwasanaethau fel y tîm iechyd meddwl, cyngor ariannol a mwy.
Bydd y swyddfa lety ar gael i gefnogi a rhoi cyngor ynghylch ble mae myfyrwyr PCYDDS yn aros er mwyn i chi allu bod o gwmpas myfyrwyr sy’n astudio gyda ni.
Beth sydd gan y Llety Preifat yn Llundain i'w gynnig
contact

Cysylltu â'r Tîm Llety
Mae ein tîm llety yma i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir er mwyn helpu i greu’r profiad prifysgol rydych chi’n ei ddymuno. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety boed yn ymwneud â hygyrchedd, opsiynau llety neu gwestiynau penodol am eich sefyllfa mae ein tîm llety wrth law i helpu.