Skip page header and navigation

Bywyd Campws Caerdydd

Four students walking outside Cardiff campus

Y Drindod Dewi Sant Yng Nghanol Caerdydd

Yn Galw Ar Bob Person Creadigol

Barod i gymryd canol y llwyfan? Does dim lleoliad gwell i chi ddewis eich stori na PCYDDS Caerdydd - campws arddull conservatoire ar gyfer dawnswyr, cantorion, cyfarwyddwyr a pherfformwyr y dyfodol. Wedi’i leoli yn Nhŷ Haywood, bydd ein graddau mewn Perfformio Lleisiol i Theatr Gerddorol yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y sbotolau. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol o Gymru i’r byd, gyda chysylltiadau cryf â chwmnïau blaenllaw yn y brifddinas a’r tu hwnt.

Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru

Academi unigryw sy’n cynnig rhaglenni arbenigol a fydd yn darparu’r myfyrwyr gyda thechneg gadarn ynghyd â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.

Gan adeiladu ar lwyddiant Academi Llais Ryngwladol Cymru a Chanolfan Berfformio Cymru, mae WAVDA yn bair o greadigrwydd, gan ddatblygu actorion, cantorion a chyfarwyddwyr y dyfodol. Mae moeseg gwaith yr Academi yn seiliedig ar barch a chydweithio, mae ein myfyrwyr yn gweithio gydag arbenigwyr o’r diwydiant i fireinio eu sgiliau yn barod ar gyfer eu gyrfaoedd.

Myfyrwyr mewn dosbarth dawns

Beth Fyddwch Chi'n Ei Astudio

Dewiswch eich stori ar y llwyfan neu yn yr esgyll. Gyda graddau mewn Perfformio Lleisiol, Perfformio a Theatr Gerddorol, byddwch yn dysgu gan arbenigwyr o fri yn y diwydiant a fydd yn mireinio eich talent ac yn eich paratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol. Mae Caerdydd yn ymwneud yn llwyr ô pharch a chydweithio - mae einmyfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd i greu hug a lledrith. A chyda chysylltiadau â Theatr Genedlaethol Cymru, S4C, Cwmni Dawns Genedlaethol Cymru, BBC Cymru, Opera Canolbarth Cymru a mwy, rydych chi’n gwybod y byddwch yn cael cymeradwyaeth gyda phawb ar ei draed wrth raddio.

Balcony shot of Cardiff arcade

Ymgollwch ym mwrlwm ac egni prifddinas Cymru.

Ewch am dro ar hyd y glannau sydd newydd gael eu hadfywio, ewch i glybio yn hen warysau diwydiannol Caerdydd, a mwynhewch y diwylliant mewn amgueddfeydd, orielau a theatrau o fri rhyngwladol.

Hefyd, mae castell canoloesol, stadiwm rhyngwladol gyda 76,000 o seddi a’r holl siopau, bwytai a chaffis y gallech fod eu heisiau mewn dinas.

Ac os ydych chi am archwilio canolbwyntiau trefol eraill, rydych chi lai nag awr i ffwrdd o Abertawe a Bryste, a llai na dwy awr o Lundain a Birmingham.

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Three students walking out of UWN Cardiff

How to get to our Cardiff Campus

Cardiff, a city of endless opportunities and boundless potential is home to our Haywood House Cardiff Campus.