
Dydd Agored Campws Llundain
Beth a gewch chi wrth fynychu Diwrnod Agored ar Gampws Llundain
Mae mynychu Diwrnod Agored yn Llundain yn ffordd wych i chi ddysgu am y Brifysgol a’n cyrsiau. Diwrnodau Agored Llundain yw eich cyfle i archwilio, dod i wybod rhagor am ein dinas, y pwnc o’ch dewis a hyd yn oed godi nwyddau am ddim i’ch cael chi’n barod am eich blwyddyn gyntaf.
Cadw lle ar Ddiwrnod Agored Llundain
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfleoedd i chi weld beth sydd gan leoliadau ein campysau i’w cynnig i chi, a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym pan fyddwch yn dewis astudio yn PCYDDS. Rydym yn cynnal Diwrnodau Agored trwy gydol y flwyddyn er mwyn i chi gael cyfle i ofyn cwestiynau sy’n bwysig i chi. Cadwch le ar ein diwrnod agored nesaf neu cofrestrwch eich manylion fel y gallwn roi gwybod i chi am ddyddiadau ein diwrnodau agored nesaf
Dysgwch ragor am ein Diwrnod Agored yn Llundain

Archwiliwch y pynciau sydd ar gael yn Llundain
Mae amrywiaeth o raglenni ar gael ar Gampws Llundain. Archwiliwch restr ein cyrsiau i ddod o hyd i’ch angerdd, ond dyma flas ar y meysydd pwnc a gynigiwn:
Teithio i Lundain
Dull teithio
-
Mae Winchester House o fewn taith gerdded fer 150 metr i ffwrdd o orsaf yr Oval.
-
Mae Winchester House yn gyfleus i nifer o lwybrau Beicio Lambeth sydd i’w gweld yn safle Cyngor Lambeth.
-
Mae Campws Llundain yn gyfleus i’r gwasanaethau bws rheolaidd ledled y ddinas.
Cynlluniwch eich taith ymlaen llaw gan ddefnyddio gwefannau neu apiau National Express a Transport for London (TfL) er mwyn gwneud y gorau o’ch amser yma.
-
Mae Campws Llundain yn gyfleus i’r gwasanaethau bws rheolaidd ledled y ddinas.
-
Mae gan Lundain brif linellau trên o bob rhan o’r DU. Gallwch gyrraedd ein campysau yn hawdd o brif orsafoedd rheilffordd Llundain, fel King’s Cross, Paddington, Euston, a Victoria, trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu deithiau tacsi byr.
Rydym yn eich cynghori i gynllunio eich taith gan ddefnyddio National Rail Enquiries.

Teithio Gwyrdd
Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.
Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.