
Gwneud Cais Uniongyrchol: Israddedig
Gwneud Cais Uniongyrchol
Bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol yn hytrach na thrwy UCAS ar gyfer llawer o’n rhaglenni prentisiaeth a rhan-amser.
Mae modd gwneud cais trwy glicio ar y ddolen isod yn ogystal ag yn uniongyrchol o dudalen y cwrs perthnasol.
Ar ôl i chi wneud cais, byddwch yn derbyn manylion mewngofnodi er mwyn cael mynediad at borth ymgeiswyr y Brifysgol, MyTSD. Gall ymgeiswyr ddefnyddio MyTSD i weld statws eu cais, ymateb i wahoddiad i fynychu cyfweliad neu glyweliad (lle bo’n berthnasol) ac ymateb i gynnig os bydd eu cais yn llwyddiannus.
Listing cards
P'un ai a ydych chi'n bwriadu astudio ar gyfer gradd baglor, meistr neu ddoethuriaeth, rydyn ni yma i'ch helpu chi i wneud y broses ymgeisio mor rhwydd â phosib

Datganiad personol yw eich cyfle unigryw chi i ymchwilio i'r dyheadau, y profiadau a’r rhinweddau sydd, yn eich barn chi, yn eich gwneud chi'n berffaith ar gyfer y cwrs a'r brifysgol rydych chi wedi’u dewis. Dylai fod yn adlewyrchiad cywir o bwy ydych chi y tu hwnt i'ch cyflawniadau academaidd, gan roi cipolwg ar eich diddordebau, eich cymhellion a'r daith sydd wedi eich arwain at y foment hon.

Rydych chi wedi cyflwyno'ch cais i'r Brifysgol, ac efallai eich bod yn holi beth sy'n digwydd nesaf? Yn dibynnu ar y cwrs efallai y cewch eich gwahodd i gyfweliad cyn cael cynnig lle ar y cwrs. Dyma eich cyfle i ddod â’ch cais yn fyw a dangos eich brwdfrydedd, eich personoliaeth a’ch potensial wyneb yn wyneb.

Gyda rhaglenni Prentisiaeth PCYDDS cewch barhau i weithio tra byddwch yn astudio, gan ddatblygu eich cymhwysedd yn y gweithle yn ogystal ag ennill cymhwyster cydnabyddedig (fel HNC, HND, gradd, neu Radd Meistr).

Cysylltu â’r Tîm Derbyn
-
Ffôn: 0300 500 5054
E-bost: admissions@UWN.ac.uk
Campws Caerfyrddin
Swyddfa Dderbyniadau
Y Gofrestrfa
PCYDDS
Llawr 1af Adeilad Dewi
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EP
Campws Llambed
Swyddfa Dderbyniadau
Y Gofrestrfa
PCYDDS
Adeilad Caergaint
Llanbedr Pont Steffan
SA48 7ED
Campws Abertawe
Swyddfa Dderbyniadau
Y Gofrestrfa
PCYDDS
Technium 1
Heol y Brenin
Abertawe
SA1 8PH -
Ffôn: 0300 373 0651
E-bost: homerecruitmentwales@UWN.ac.uk -
Ffôn: 0121 229 3000
E-bost: birminghamadmissions@UWN.ac.uk -
Ffôn: 0207 566 7600
E-bost: londonadmissions@UWN.ac.uk -
Ffôn: 01792 482050
E-bost: international.registry@UWN.ac.uk -
Ffôn: 01267 676849
E-bost: RegistryPGR@UWN.ac.uk -
Os oes gennych unrhyw ymholiadau’n ymwneud â’ch cofnod cofrestru myfyriwr, arholiadau, graddio neu os ydych am wneud cais am drawsgrifiad/tystysgrif mewn perthynas â’ch astudiaethau yn PCYDDS, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau’r Gofrestrfa.