Skip page header and navigation

Yma i’ch helpu gyda’ch gyrfa

Barod i gychwyn yn llwyddiannus gyda’ch nodau yn gadarn yn y golwg? P’un a ydych wedi rhoi eich calon ar astudiaeth bellach, gyrfa lwyddiannus neu hyd yn oed ddechrau eich busnes eich hun, byddwn yn eich cefnogi wrth i chi ddilyn eich breuddwydion.

Ac os nad ydych yn siŵr beth rydych am ei wneud eto, bydd ein Cynghorwyr Gyrfa brofiadol a chyfeillgar yn rhoi’r cyngor a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch i ddod o hyd i’ch llwybr.

Trwy apwyntiadau un i un, neu sesiynau galw heibio, cewch gyfle i adnabod eich cryfderau naturiol a’ch setiau sgiliau, darganfod mwy a chwilio am swydd effeithiol, dysgu sut i ysgrifennu CVs effeithiol, hogi eich sgiliau cyfweliad, a gwneud caid am rolau i raddedigion. Byddwn hefyd yn eich helpu gyda datganiadau personol a cheisiadau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.

Yn ogystal â’n Cynghorwyr Gyrfa, bydd gennych fynediad i FyNgyrfa, platfform gyrfaoedd ar-lein y brifysgol. Gydag offer arbenigol fel bwrdd swyddi, cynlluniwr gyrfa, gwiriwr CV360 awtomataidd, Interview 360 a mwy, gallwch ddechrau paratoi ar gyfer eich dyfodol ar eich telerau eich hun.

Barod i gymryd y cam nesaf? Byddwn ni yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i brofiad gwaith, lleoliadau cyflogedig neu swydd ran amser – felly byddwch chi’n graddio’n barod gyda’r sgiliau a’r hyder i adeiladu’r dyfodol rydych chi wedi breuddwydio amdano erioed. Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn trefnu gweminarau a ffeiriau gyrfaoedd cyflogwyr ar bob campws gydol y flwyddyn academaidd. 

Mae’n bryd cydio yn eich dyfodol gyda’ch dwy law.

Accordions

  • Yn dibynnu ar eich cwrs, byddwch hefyd yn cael y cyfle i ennill cymwysterau yn y diwydiant, lleoliadau gwaith ac interniaethau yn ystod eich gradd.

    Os ydych chi’n astudio gradd peirianneg neu gradd fodurol, er enghraifft, fe allech chi fod yn treulio blwyddyn ar leoliad yn y diwydiant modurol gyda phobl fel Aston Martin, Jaguar neu Rolls Royce.

    Astudio’r gyfraith, plismona neu droseddeg? Datblygir ein cyrsiau mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru.

    Diddordeb yn nisgyblaeth academaidd plentyndod, ieuenctid ac addysg? Byddwn yn darparu lleoliadau gwaith i chi mewn amrywiaeth o leoliadau yn ystod eich gradd.

    Chwilio am radd mewn lletygarwch, twristiaeth neu reoli gwestai rhyngwladol? Sicrhewch y profiad sydd ei angen arnoch gyda lleoliadau yng Ngwestai Marriott.

    Efallai eich bod am roi hwb i’ch sgiliau coginio? Gyda Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol, fe allech chi wneud lleoliad gyda Bwytai Marco Pierre White.

    Ac os ydych chi’n ystyried dyfodol yn y diwydiannau creadigol, mae gennym gysylltiadau â Tinopolis, H&M, M&S a Hallmark.

  • Lle bo’n berthnasol, byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn prosiectau byw, seiliedig ar waith yn ystod eich gradd gyda chwmnïau lleol a sefydliadau cenedlaethol. Hogwch eich sgiliau byd go iawn, dechrau adeiladu rhwydwaith proffesiynol a graddio yn barod i wneud argraff ar gyflogwyr.

    Gallwch gysylltu â thîm y Gwasanaeth Gyrfaoedd trwy:

    E-bost: gyrfaoedd@pcydds.ac.uk

    Oriau agor:
    Dydd Llun 8.30 – 5.00
    Dydd Mawrth 8.30 – 5.00
    Dydd Mercher 8.30 – 5.00
    Dydd Iau 8.30 – 5.00
    Dydd Gwener 8.30 – 4.30

    Yn ychwanegol at yr amrywiaeth ehangaf bosibl o wybodaeth, cyngor ac adnoddau Gyrfaoedd a ddarperir trwy ein platfform Gyrfaoedd digidol Fy Ngyrfa gallwch hefyd ddod o hyd i newyddion am swyddi gwag a Gyrfaoedd yma:

    FORM TO BE ADDED

    Barod i Waith – prosiect cyflogadwyedd newydd. Mae hwn yn brosiect newydd i gefnogi myfyrwyr i fagu hyder a pharodrwydd gyrfaol gyda’r opsiwn o gyflawni gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae cyllid ar gael i gefnogi myfyrwyr gyda chostau teithio a gofal plant.

    Cysylltwch â’r gwasanaeth gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth: gyrfaoedd@pcydds.ac.uk Llinell destun e-bost: Barod i Waith.

  • Fel Myfyriwr PCYDDS cyfredol mae gennych bellach fynediad llawn 24/7 i blatfform blaenllaw Gyrfaoedd brifysgol. Trwy’r platfform hwn mae gennych fynediad isod i wybodaeth Gyrfaoedd, Hunanasesu, Cynlluniwr Gyrfa, gwiriwr CV360 a LLAWER mwy. 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.