Ffioedd a Chyllid

Deall Ffioedd a Chyllid Prifysgol
Rydym yn deall nad breuddwyd yn unig yw dilyn trywydd addysg uwch, ond buddsoddiad sylweddol yn eich dyfodol. Rydym nid yn unig wedi ymrwymo i ddarparu addysg wych i chi, ond profiad prifysgol gwych hefyd. I wneud hyn mae’n bwysig bod gennych ddealltwriaeth glir o ffioedd prifysgol a’r adnoddau ariannol a’r cymorth sydd ar gael i chi.
Ffioedd Prifysgol
Mae tryloywder yn allweddol wrth drafod ffioedd prifysgol. Mae nifer o ffioedd y gall myfyrwyr eu hysgwyddo yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol, un o’r prif rai yw’r ffioedd dysgu, sef, yn syml, cost eich cwrs gradd. Bydd eich ffioedd dysgu yn dibynnu ar y rhaglen yr ydych chi wedi ei dewis a lefel yr astudiaeth.
Gall ffioedd eraill godi yn ystod eich astudiaethau a bydd y rhain yn dibynnu ar y rhaglen yr ydych chi wedi ei dewis. Ceir syniad o’r ffioedd hyn ar dudalennau’r cyrsiau unigol o dan ‘Costau Ychwanegol’.
Cymorth Ariannol PCYDDS
Eto, mae cymorth ariannol yn amrywio gan ddibynnu ar y rhaglen yr ydych chi wedi ei dewis a’r lefel astudiaeth. Bydd y rhain hefyd yn amrywio o ymgeisydd i ymgeisydd yn seiliedig ar amgylchiadau personol. Mae’r math o gymorth ariannol a allai fod ar gael yn cynnwys bwrsariaethau, benthyciadau ac ysgoloriaethau.
Funding support and Finance for undergraduate degrees. We have plenty of scholarships and bursaries available to you to support your studies.

Bwrsariaethau Ôl-raddedig

Rydym yn falch o gynnig cyfleoedd am ysgoloriaethau i fyfyrwyr o bob rhan o'r byd.
