
Ceisio am Brentisiaethau
Ceisio am Brentisiaethau
Gyda rhaglenni Prentisiaeth PCYDDS cewch barhau i weithio tra byddwch yn astudio, gan ddatblygu eich cymhwysedd yn y gweithle yn ogystal ag ennill cymhwyster cydnabyddedig (fel HNC, HND, gradd, neu Radd Meistr).
Mae prentisiaeth yn fater sydd wedi’i ddatganoli a bydd y cyrsiau sydd ar gael yn dibynnu ar ble rydych wedi’ch cyflogi.
Gweld y Prentisiaethau Rydyn ni’n eu Cynnig Yma
Rhai bodloni’r gofynion hyn os ydych eisiau gwneud cais:
- Eich bod yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig.
- Eich bod yn cael eich cyflogi mewn swydd addas o fewn y sector perthnasol.
- Eich bod â chefnogaeth eich cyflogwr i wneud hyn.
Os ydych chi’n barod i ymgeisio, defnyddiwch y botwm Mynegi eich diddordeb. Byddwn angen eich enw, eich cod post, enw eich cyflogwr, a’r rhaglen dan sylw. Byddwn yn adolygu eich gwybodaeth ac yn danfon dolen ymgeisio i chi.
Ar ôl mynegi diddordeb, bydd aelod o’r Tîm Uned Brentisiaethau yn cysylltu â’r ymgeiswyr posibl er mwyn gwirio eu cymhwysedd ac i roi cynghori ar y ffordd orau o gael mynediad at y rhaglen o ystyried eu cymwysterau a’u profiad presennol. Yna, bydd modd darparu dolen i’r ffurflen gais. Rhaid i brentisiaid nodi eu cyflogwr presennol fel canolwr ar eu ffurflen gais.
Os nad ydych yn gymwys i ymgeisio, bydd angen i chi ganfod swydd wag berthnasol, edrychwch isod i gael rhagor o fanylion.
-
I gael Prentisiaeth Radd â PCYDDS, bydd angen i chi fod wedi’ch cyflogi’n barod neu wneud cais am swydd gydag un o’n cyflogwyr partner. Bydd swyddi gwag yn cael eu rhestru ar y dudalen hon cyn gynted ag y byddan nhw ar gael, felly cofiwch edrych yn rheolaidd.
Arbenigwr Archaeolegol
Swyddi amrywiol, Gwasanaeth Gwybodaeth am Swyddi a Hyfforddiant, Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr (CIFA).
Digidol
Swyddi amrywiol - Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), Caerdydd, Yr Wyddgrug, Pencoed, Pont-y-pŵl ac Abertawe.
Peirianneg
Swyddi amrywiol - Tata Steel, Port Talbot.
Gwydr Lliw
Prentis Cadwraethwr Gwydr Lliw, Peintiwr a Glwydrwr – Holy Well Glass, Wells, Gwlad yr Haf.
Safleoedd llywodraeth lle gallwch ganfod prentisiaeth:
Yng Nghymru, chwiliwch Dod o hyd i brentisiaeth Cymru er mwyn canfod dolenni allanol.
Yn Lloegr, defnyddiwch dudalen swyddi gwag Prentisiaethau Gradd ac Uwch ESFA, neu safle Dod o hyd i Brentisiaeth ESFA (Gallwch hidlo’r canlyniadau ar lefel 6 i weld prentisiaethau Gradd).