
Cwrs Preswyl Haf
Introduction
Mae’r adran ehangu mynediad a recriwtio myfyrwyr yn cynnal cwrs preswyl ar draws campysau Caerfyrddin, Abertawe a Llambed yn nhymor yr haf 2024. Bydd y cwrs preswyl yn rhoi blas i fyfyrwyr 16-17 oed ar fywyd prifysgol unigryw Y Drindod Dewi Sant.
Sylwch y rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sy’n bodloni o leiaf un o’r meini prawf hyn, ond nid yw bodloni’r meini prawf yn gwarantu lle ar y rhaglen gan fod lleoedd yn gyfyngedig.
- Byw mewn côd post MALIC40
- Bod mewn gofal, neu wedi byw mewn gofal ar un adeg
- Bod yn ofalwr
- Bod wedi’ch dieithrio o’ch rhieni
- Bod ag anabledd dysgu neu gorfforol, gan gynnwys salwch hirdymor
- Bod heb brofiad o’r brifysgol yn y teulu
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n bodloni’r meini prawf hyn, mae croeso i chi gyflwyno cais a gallwn archwilio’r mater ymhellach.
Sylwer, oherwydd cyfyngiadau o ran ariannu, mae’r rhaglen yn cadw’r hawl i ddiwygio, tynnu’n ôl, canslo, newid neu gyfuno unrhyw raglen, leoliad neu gyfleuster, neu ran ohonynt, ar unrhyw adeg.