
Gofynion Iaith Saesneg
Gofynion Saesneg
Mae’n rhaid i bob Myfyriwr Rhyngwladol sy’n ceisio mynediad i’r Brifysgol ddangos eu bod yn rhugl yn y Saesneg i’r lefel a nodir yng ngofynion mynediad a pholisi Saesneg y Brifysgol.
Hefyd, mae’n rhaid i’r Brifysgol gynnal asesiad ffurfiol o allu Saesneg pob myfyriwr y maen nhw’n bwriadu ei noddi dan y llwybr Fisa Myfyriwr. Bydd rhaid i ymgeiswyr sydd angen nawdd fodloni gofynion Saesneg y Brifysgol ei hun yn ogystal â rhai UKVI.
Bydd pob cwrs a gynigir gan y Brifysgol yn nodi lefel y Saesneg sy’n ofynnol i gael mynediad i’r cwrs. Ar y cyfan, byddant yn uwch na’r hyn y mae UKVI yn ei ofyn at ddibenion mewnfudo.
Sylwch fod y Brifysgol yn cadw’r hawl i ofyn i unrhyw ymgeisydd gwblhau asesiad Saesneg gydag un o’i aseswyr Saesneg ei hun, ni waeth pa dystiolaeth o hyfedredd Saesneg a ddarperir. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i beidio â chaniatáu mynediad ar sail yr asesiad hwn, pan fo rheswm i amau a yw hyfedredd Saesneg yr ymgeisydd yn ddigonol.
Mae'r gofynion Saesneg ar gyfer mynediad fel a ganlyn:
-
Lefel Saesneg gyffredinol sy’n cyfateb i sgôr IELTS o 5.0, gyda dim llai na 4.5 mewn darllen, siarad, a gwrando, a sgôr o 5.0 mewn ysgrifennu.
-
Lefel Saesneg gyffredinol sy’n cyfateb i sgôr IELTS o 6.0 (neu gyfwerth) heb unrhyw sgôr is na 5.5 mewn darllen, ysgrifennu, gwrando, a siarad.
-
Lefel Saesneg gyffredinol sy’n cyfateb i sgôr IELTS o 6.5 (neu gyfwerth) heb unrhyw sgôr is na 6.5 mewn darllen ac ysgrifennu, a dim is na 5.5 mewn gwrando neu siarad.
-
Gall ymgeiswyr fodloni gofynion mynediad Saesneg y Brifysgol yn awtomatig ar gyfer pob cwrs academaidd os ystyrir eu bod yn siaradwyr Saesneg brodorol o ganlyniad i fod yn ddinesydd gwlad ble mae’r mwyafrif yn siarad Saesneg:
- Antigua a Barbuda
- Awstralia
- Y Bahamas
- Barbados
- Belize
- Canada
- Dominica
- Grenada
- Guyana
- Iwerddon
- Jamaica
- Malta
- Seland Newydd
- St Kitts a Nevis
- St Lucia
- St Vincent a’r Grenadines
- Trinidad a Tobago
- Y Deyrnas Unedig
- Unol Daleithiau America
-
Yn ogystal â’r uchod, gall ymgeiswyr ddarparu’r dystiolaeth ganlynol er mwyn bodloni gofynion Saesneg eu cwrs:
- Cyrsiau Rhaglen Sylfaen Ryngwladol, Tystysgrif Addysg Uwch a HND
- Prawf Saesneg Diogel (SELT) a gydnabyddir gan UKVI.
-
Os yw’r ymgeisydd:
- Wedi cwblhau cymhwyster israddedig neu ôl-raddedig cydnabyddedig mewn sefydliad cydnabyddedig sydd wedi’i leoli yn un o’r gwledydd uchod ble mae’r mwyafrif yn siarad Saesneg (efallai y bydd y Brifysgol eisiau gweld tystysgrifau, trawsgrifiadau a/neu ddogfennau eraill sy’n nodi ym mha iaith y cyflwynwyd ac yr aseswyd y cwrs cyn gwneud cynnig).
- Wedi cwblhau cymhwyster israddedig neu ôl-raddedig cydnabyddedig yn y ddwy flynedd ddiwethaf mewn sefydliad cydnabyddedig sydd ag ardystiad am addysg cyfrwng Saesneg (efallai y bydd y Brifysgol eisiau gweld tystysgrifau, trawsgrifiadau a/neu ddogfennau eraill sy’n nodi ym mha iaith y cyflwynwyd ac yr aseswyd y cwrs cyn gwneud cynnig).
- Wedi cael dyfarniad Prawf Saesneg Diogel (SELT) a gydnabyddir gan UKVI o fewn 2 flynedd i wneud cais am fynediad i’r Brifysgol.
- Ag un o’r dogfennau Prawf Saesneg canlynol sydd wedi’i dyfarnu o fewn 2 flynedd i wneud cais am fynediad i’r Brifysgol:
Enw’r Cymhwyster
Sgôr Ofynnol
IELTS (Academaidd) ar gyfer UKVI
Sgôr gyffredinol o 6.0, heb sgôr is na 5.5 mewn Darllen, Ysgrifennu, Gwrando neu Siarad.
Cambridge English: C1 Advanced.
Isafswm sgôr o 169 yn gyffredinol gydag o leiaf 162 ym mhob cydran.
Cambridge English: B2 Business Vantage
(BEC Vantage)
– ar gyfer cyrsiau Busnes yn unig.
Isafswm sgôr o 169 yn gyffredinol gydag o leiaf 162 ym mhob cydran.
Cambridge English: C1 Business Higher
(BEC Higher)
– ar gyfer cyrsiau Busnes yn unig
Isafswm sgôr o 169 yn gyffredinol gydag o leiaf 162 ym mhob cydran.
Language Cert International ESOL SELT B2 neu C1. Wedi’i sefyll mewn canolfan brawf a gydnabyddir gan UKVI
Bydd angen isafswm sgôr o 33/50 ym mhob un o’r pedair elfen.
TOEFL iBT wedi’i sefyll mewn canolfan brawf awdurdodedig
Darllen, isafswm 18; Gwrando, isafswm 17; Ysgrifennu, isafswm 17; Siarad, isafswm 20; ni dderbynnir sgoriau TOEFL MyBest.
Cambridge English: C2 Proficiency
Mae pas yn dderbyniol ar bob lefel mynediad.
Prawf Saesneg Pearson (PTE Academic) wedi’i sefyll mewn canolfan brofi UKVI.
Bydd angen isafswm sgôr o 59 ym mhob un o’r pedair cydran.
Prifysgol Cymru, Casnewydd: Prawf Iaith Academaidd Cymru
Isafswm sgôr gyffredinol o 6.0 gyda dim sgôr is na 5.5 mewn Darllen, Ysgrifennu, Gwrando a Siarad.
Prawf Sgiliau Saesneg Integredig (ISE) Trinity II neu III wedi’i sefyll yn y DU mewn canolfan brawf a gymeradwywyd gan UKVI
Pas
Bagloriaeth Ryngwladol
Lefel 5 Uwch neu Lefel 5 Safonol Iaith A neu Lefel 5 Uwch neu Lefel 5 Safonol Iaith B
IGCSE Caergrawnt
Bydd gradd C (gradd 4) neu uwch mewn IGCSE Saesneg Ail Iaith yn bodloni’r gofynion hyfedredd Saesneg ar gyfer astudiaeth israddedig.
-
Os yw’r ymgeisydd:
- Ag un o’r cymwysterau canlynol wedi’i ddyfarnu o fewn dwy flynedd i wneud cais i’r Brifysgol:
Enw’r Cymhwyster
Sgôr Ofynnol
SQA HND mewn Busnes
Pàs ynghyd â phasio cyfweliad gydag Asesydd Saesneg PCYDDS
Diploma Addysg Uwchradd Hong Kong (HKDSE)
Lefel 4 mewn Saesneg Iaith (gydag o leiaf lefel 3 ym mhob sgil) yn ogystal â phasio cyfweliad gydag Asesydd Saesneg PCYDDS.
Safon XII India, Saesneg Iaith ac eithrio byrddau Punjab a Haryana
70% neu’n uwch yn yr elfen Saesneg
Maes llafur 1119 Malaysia (UCLES)
Ar gyfer cyrsiau sydd â gofyniad cyfwerth â sgôr IELTS cyffredinol o 6.0 neu is: Gradd C neu uwch. Ar gyfer cyrsiau sydd angen sgôr IELTS cyffredinol o 6.5: Gradd B neu uwch.
Tystysgrif Addysg Wganda (UCE)
Gradd 6 neu uwch
WAEC Nigeria a Ghana
Gradd C6 Saesneg neu uwch
Vitnemal Norwy
Gradd 4 mewn Saesneg
-
Cyrsiau Ymchwil i Raddedigion
Os yw’r ymgeisydd:
- Wedi ennill cymhwyster israddedig neu ôl-raddedig cydnabyddedig o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf mewn sefydliad cydnabyddedig sydd wedi’i leoli yn un o’r gwledydd uchod ble mae’r mwyafrif yn siarad Saesneg (efallai y bydd y Brifysgol eisiau gweld tystysgrifau, trawsgrifiadau a/neu ddogfennau eraill sy’n nodi ym mha iaith y cyflwynwyd ac yr aseswyd y cwrs cyn gwneud cynnig).
- Wedi pasio Prawf Saesneg Diogel (SELT) a gydnabyddir gan UKVI o fewn 2 flynedd i wneud cais i’r Brifysgol.
- Ag un o’r dogfennau Prawf Saesneg canlynol sydd wedi’i dyfarnu o fewn 2 flynedd i wneud cais am fynediad i’r Brifysgol:
Enw’r Cymhwyster
Sgôr Ofynnol
IELTS (Academaidd) ar gyfer UKVI
Sgôr gyffredinol o 6.5 neu uwch gyda dim is na 6.5 mewn Darllen ac Ysgrifennu, a dim is na 5.5 mewn Gwrando neu Siarad.
Cambridge English: C1 Advanced
Sgôr o 176 neu uwch, heb sgôr is na 162 mewn Darllen, Ysgrifennu, Gwrando a Siarad.
Cambridge English: C2 Proficiency
Sgôr o 176 neu uwch, heb sgôr is na 162 mewn Darllen, Ysgrifennu, Gwrando a Siarad.
Prawf Saesneg Pearson (PTE Academic) wedi’i sefyll mewn canolfan brofi UKVI
Sgôr o 62 neu uwch ym mhob un o’r pedwar cydran.
Prifysgol Cymru, Casnewydd: Prawf Iaith Academaidd Cymru
Sgôr cyffredinol o 6.5 neu uwch a dim sgôr is na 6.5 mewn Darllen ac Ysgrifennu, a dim is na 5.5 mewn Gwrando a Siarad.
Sgiliau Saesneg Integredig Trinity (ISE)
Rhagoriaeth ym mhob cydran
Sgiliau Saesneg Integredig Trinity (ISE) II
Pas neu uwch yn gyffredinol, gyda phas neu uwch ym mhob cydran