
Llety
Llety
Ydych chi’n bwriadu byw oddi cartref tra byddwch chi’n astudio? Beth am greu’r profiad prifysgol rydych wedi breuddwydio amdano erioed? Mae ein llety i gyd yn ddiogel ac yn annibynnol - felly p’un ai eich bod yn rhywun sy’n mwynhau bwrlwm bywyd cymdeithasol neu’n os oes well gennych chi fywyd tawel, mae yna lety sy’n addas i chi ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
-
Neuaddau Preswyl
Gallwch ddewis o ystafelloedd en-suite neu rai lle byddwch yn rhannu cyfleusterau, sy’n eich rhoi yng nghanol bywyd myfyrwyr – byddwch hefyd yn elwa o fod yn agos at ein gwasanaethau ar y campws.
-
Oddi ar y Campws
Os byddai’n well gennych chi fyw oddi ar y campws neu ddod o hyd i’ch llety eich hun, gallwch ddewis rhwng llety rhent preifat ac, yn y rhan fwyaf o’n lleoliadau, neuaddau myfyrwyr sy’n cael eu rhedeg yn breifat.
Mae ein lleoliadau yng Nghaerfyrddin a Llambed yn cynnig llety i fyfyrwyr ar y safle, gyda llawer o’r ystafelloedd hyn yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf fel chi. Gwnewch y campws yn gartref i chi, trwy fyw ychydig funudau o’ch dosbarthiadau, y llyfrgell a phopeth sy’n ymwneud â’r brifysgol.
Mae gan Abertawe, Caerdydd, Llundain a Birmingham lety preifat pwrpasol yn agos i’n campysau. Gwnewch y ddinas yn gartref i chi, mwynhewch y diwylliant a’r cyfleoedd - a phrofwch wefr bywyd yn y ddinas. Ble bynnag y byddwch chi’n astudio, byddwch yn dod yn rhan annatod o gymuned groesawgar, lle byddwch yn cwrdd â ffrindiau oes a chymeriadau anhygoel ar hyd y daith.
I ddarganfod mwy am eich opsiynau, dilynwch y ddolen ar gyfer y campws penodol isod.
I gael arweiniad a chymorth cysylltwch â’r tîm llety.
Universities UK - Cod Ymarfer
-
Lluniwyd y Cod Ymarfer Llety fel datganiad o arfer da sy’n gallu newid a chael ei fireinio yn sgil profiad ac sy’n annog rheoli llety’n well. Mae’r cod yn sicrhau bod preswylwyr yn elwa ar bolisïau a gweithdrefnau clir sy’n ymwneud â’r canlynol:
- Iechyd a Diogelwch
- Cynnal a Chadw ac Atgyweirio
- Lles Myfyrwyr
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion disgyblu
- Ansawdd amgylcheddol