
Cyfleusterau Technoleg Cerddoriaeth Greadigol
Introduction
Mae’r cyfleusterau ar gyfer cyrsiau Technoleg Cerddoriaeth yn cynnwys tair stiwdio recordio o safon diwydiannol; dwy stiwdio ddigidol ac un stiwdio analog. Un o’r stiwdios hyn yw’r Neuadd BBC hanesyddol, a ailadeiladwyd yn 1951.
Facilities include:
Dyma un o’r mannau acwstig gorau yn y DU, sy’n defnyddio Cyseinyddion Helmholt tiwniadwy. Fe’i ddefnyddir i recordio popeth o gerddorfeydd, cantorion opera, bandiau jazz a chyfansoddwyr a chantorion caneuon.
Caiff hefyd ei ddefnyddio fel lleoliad, ac yno y cynhelir cyfres cyngherddau NAWR. Yn ogystal â hyn, mae gennym labordy cyfrifiaduron sydd â chyfrifiaduron iMac
Mae’r stiwdios wedi croesawu artistiaid amrywiol, fel Dylan Thomas, Peter Sellers a Catatonia. Ar hyn o bryd, mae Cerddorfa Gliniadur Abertawe mewn preswyliaeth yno.
Mae gan fyfyrwyr fynediad llawn i’n lab Mac, sy’n llawn meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel Pro Tools a Logic X. Cynigir hyfforddiant dwys mewn ystod eang o sgiliau a gweithgareddau cysylltiedig â thechnoleg cerddoriaeth.
Mae’r casgliad o stiwdios yn y brifysgol yn llawn offer sy’n cynnig ystod eang o feddalwedd a chaledwedd o safon diwydiannol a lleoedd recordio a pherfformio pwrpasol.
Oriel
Mynediad a rennir
Trefnir mynediad i ardaloedd eraill y Gyfadran trwy weithdai, fodd bynnag, mae gan Goleg Celf Abertawe bolisi o ganiatáu mynediad a rennir i’n holl gyfleusterau.