Cyn-Fyfyrwyr

Cadwch mewn cysylltiad
Croeso i holl raddedigion y Drindod Dewi Sant a’n sefydliadau rhagflaenol. Ble bynnag rydych chi yn eich gyrfa a ble bynnag rydych chi yn y byd, byddwn bob amser eisiau clywed am sut rydych chi’n dod ymlaen.
Rydym yn falch o’r gymuned fyd-eang ysbrydoledig hon sydd wedi derbyn graddedigion ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rydym am rannu eich straeon, dathlu eich llwyddiannau, a’ch cadw mewn cysylltiad. Cadwch y Brifysgol hon yn rhan o’ch gorffennol, eich presennol a’ch dyfodol.
Un o’r ffyrdd gorau o gadw mewn cysylltiad yw drwy darllen y cyfathrebiadau y byddwn yn eu hanfon atoch. Cyn belled â bod gennym eich gwybodaeth wedi’i diweddaru, byddwn yn cadw mewn cysylltiad gyda newyddion, diweddariadau a gwahoddiadau trwy e-gylchlythyrau. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yma trwy ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n hystafell newyddion.
O bryd i’w gilydd efallai y byddwn yn gofyn i chi gyfrannu at ein cefnogi trwy weithgareddau amrywiol megis darparu astudiaethau achos, bod yn ddarlithydd gwadd i’n myfyrwyr presennol, neu hyd yn oed drwy roddion. Os hoffech gyfrannu, cysylltwch â ni.
Explore our Carmarthen Campus
Rydym yma i’ch cefnogi a darparu gwasanaeth ar eich cyfer ymhell ar ôl i chi raddio. Beth am fanteisio ar y buddion niferus sydd ar gael i chi fel cyn-fyfyrwyr.

Mae croeso cynnes yn aros i chi bob amser yn ôl ar y campws lle gwnaethoch astudio. Boed yn ddigwyddiadau hyfforddi neu rwydweithio, ffeiriau gyrfaoedd, neu aduniadau, rydym wrth ein bodd yn gweld cyn-fyfyrwyr a staff yn dal i fyny.

Mae'r arolwg Hynt Graddedigion yn arolwg cenedlaethol sy'n casglu gwybodaeth am weithgareddau a safbwyntiau graddedigion 15 mis ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau.

Efallai y byddech yn disgrifio eich amser yma fel rhai o flynyddoedd gorau eich bywyd, felly beth am wneud hynny'n realiti i eraill drwy roi rhywbeth yn ôl i'r Brifysgol.


Diweddaru eich manylion
Angen cofrestru neu ddiweddaru manylion fel eich e-bost, cyfeiriad post neu deitl swydd? Llenwch ein ffurflen a rhowch wybod i ni beth sydd wedi newid fel y gallwn gadw mewn cysylltiad â chi.

Anrhydeddu ein gorffennol
Heddiw, Prifysgol Cymru, Casnewydd yw ein henw ond mae llawer iawn o hanes i’r sefydliad hwn, a gwnaiff y tîm cysylltiadau â chyn-fyfyrwyr wastad anelu at anrhydeddu hyn drwy ddathlu datblygiadau’r gorffennol a’r dyfodol. Dysgwch fwy am ein sefydliadau rhagflaenol ar ein tudalen Hanes a Llinell Amser.
Mae ein tîm Casgliadau Arbennig ac Archifau hefyd yn coffáu’r hanes helaeth hwn drwy arddangosfeydd corfforol ag ar-lein, ac mae archifau rhai o’n colegau rhagflaenol yn cael eu cadw gan y tîm ar gampws Llambed. Cysylltwch â nhw a’ch ymholiadau neu os hoffech ymweld a’r archifiau.
Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau
Angen cael gafael ar eich trawsgrifiad, llythyr cadarnhau dyfarniad, neu dystysgrif newydd? Cysylltwch â’r Gofrestrfa. Byddwch yn ymwybodol y gall gymryd hyd at wyth wythnos i dderbyn eich tystysgrif.
-
Os oes gennych gwestiynau neu ymholiadau, gallwch gysylltu â ni drwy e-bost neu trwy’r post:
Swyddog Cyn-fyfyrwyr
Prifysgol Cymru, Casnewydd: Caerfyrddin
Ffordd y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EP
-
Os hoffech gysylltu â Swyddog Cyn-fyfyrwyr Llambed yn benodol, gallwch wneud hynny drwy e-bost neu bost:
Swyddog Cyn-fyfyrwyr
Prifysgol Cymru, Casnewydd: Llambed
Ceredigion
SA48 7ED