
Cyrsiau Hyfforddi: Iechyd a Llythrennedd Corfforol – Cefnogi Datblygiad Corfforol yn ystod Plentyndod Cynnar
Cyflwyniad
Darganfyddwch sut mae symud o safon yn ystod plentyndod cynnar yn hanfodol er mwyn gosod sylfeini gweithgarwch corfforol, iechyd, llesiant a chanlyniadau academaidd.
Credwn y dylai rhaglenni megis SKIP Cymru gael eu rhoi ar waith ledled y wlad i sicrhau bod pob plentyn yn datblygu’r Sgiliau Echddygol Sylfaenol hanfodol y mae eu hangen arnynt i’w harfogi ar gyfer blynyddoedd yn ddiweddarach yn eu hoes.
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Senedd Cymru
Pam mae’r hyfforddiant hwn mor bwysig?
Mae’r hyfforddiant hwn yn helpu i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol o anweithgarwch, gorbwysedd a gordewdra ymhlith plant, dirywiad mewn iechyd a chanlyniadau academaidd gwael.
Gall ymarferwyr o sefydliadau addysg, iechyd, cymunedol a theuluol gefnogi iechyd a llesiant plant drwy ddeall sut…
- Mae angen symud o safon yn y blynyddoedd cynnar ar gyfer datblygiad corfforol
- Mae symud yn ystod plentyndod cynnar yn creu cysylltiadau yn yr ymennydd ac yn cefnogi lleferydd, iaith a llythrennedd.
- Mae sgiliau symud hanfodol yn sail i weithgarwch corfforol ac iechyd yn ddiweddarach
- Ni chaiff pob sgil ei datblygu drwy chwarae’n unig ac mae angen eu haddysgu mewn ffordd ddatblygiadol briodol i fodloni anghenion penodol pob plentyn
- Mae datblygiad corfforol plant yn hanfodol i hunan-barch, hyder a gwydnwch, gan gefnogi iechyd meddwl a llesiant.
Pynciau a drafodir ar ein cyrsiau
- Llythrennedd Corfforol
- Arfer Cynhwysol
- Iechyd a Llesiant
- Datblygiad Cynnar
- Integreiddio Synhwyraidd
- Cysyniadau symud
- Egwyddorion SKIP-Cymru
- Datblygiad Echddygol
- Camau Sgiliau Echddygol
- Strategaethau Ymarferol
- Tasgau ac Offer
Ar ein hyfforddiant byddwch yn datblygu dealltwriaeth o:
- Ddatblygiad corfforol o enedigaeth i blentyndod canol gan gynnwys datblygiad plentyndod cynnar, integreiddio echddygol synhwyraidd a cherrig milltir datblygiadol
- Cyfraniad symud i ddatblygiad ehangach plant, gan gynnwys datblygiad gwybyddol, sgiliau cymdeithasol, iaith a chyfathrebu, hunan-barch, hyder a gwydnwch
- Amrywiaeth o ddulliau ar gyfer datblygu geirfa symud eang sy’n cefnogi amrywiaeth ac ansawdd mewn gweithgarwch corfforol
- Damcaniaethau datblygiad echddygol a sut y gallwch gymhwyso’r rhain drwy amrywiaeth o strategaethau yn eich arfer
- Arsylwi a dadansoddi camau datblygiadol sgiliau echddygol plant a llunio barn am yr offer a’r tasgau priodol i gefnogi datblygiad plentyn mewn dull sy’n seiliedig ar chwarae
- Strwythurau a strategaethau clir ar gyfer rheoli grwpiau o blant mewn gweithgarwch corfforol gydag arfer cynhwysol
- Sut i werthuso amrywiaeth o adnoddau a dulliau a’u defnyddio mewn ffordd ddatblygiadol briodol
- Amrywiaeth o strategaethau ar gyfer gweithio gyda rhieni a gofalwyr i gefnogi datblygiad eu plant gartref.
Adolygiadau Dysgwyr
Derbyniodd yr holl staff yr hyfforddiant Datblygu a Chefnogi Datblygiad Corfforol mewn Plentyndod Cynnar, gan drawsnewid ethos yr ysgol gan fod yr holl staff bellach yn gweld pwysigrwydd symud. Cafwyd effaith gadarnhaol enfawr ar ddatblygiad echddygol y plant, ond roedd hyn hefyd yn trosglwyddo i’w brwdfrydedd, eu gallu i ganolbwyntio, eu hymgysylltiad a’u hymddygiad cadarnhaol mewn meysydd dysgu eraill.
Pennaeth, Sir Benfro
Cawsom arolygiad Ofsted, ac arsylwyd fy ngwersi Addysg Gorfforol. Gwnaeth yr ystod o weithgareddau diddorol a oedd yn darparu ar gyfer holl anghenion y plant argraff dda ar yr arolygydd arweiniol ac yr oedd ganddi ddiddordeb mewn clywed am fanteision y datblygiad offer priodol ac agweddau eraill ar yr hyfforddiant. Tynnwyd sylw at y sesiwn addysg gorfforol yn adroddiad swyddogol Ofsted; nodwyd ar gyfer datblygu gwybodaeth a sgiliau dwfn.
Athrawes, Lloegr
Holi am ein hyfforddiant
I gael gwybod am ddyddiadau cyrsiau ac i gadw lle ar gwrs, anfonwch e-bost at kirsty.edwards@pcydds.ac.uk