
Llywodraethu Corfforaethol
Llywodraethu Corfforaethol
Mae’r adran Llywodraethu Corfforaethol yn gyfrifol am oruchwylio a monitro sicrwydd, cydymffurfiaeth, ymgysylltu â rheolyddion (CCAUC/CTER), cynllunio strategol a monitro perfformiad ar draws y Brifysgol, mae hyn yn cynnwys:
- Materion Llywodraethu a Chyfansoddiadol
- Elusennau a Chwmnïau
- Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
- Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth
- Cydymffurfiaeth GDPR
- Cyhoeddi
- Safonau’r Gymraeg
- Cynllunio Strategol
- Goruchwylio polisi
- Perfformio a monitro’r strategaeth cyfundrefnol
- Goruchwylio ac adrodd ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol
- Rheoli Risg
- Ymgysylltu a chysylltu gyda CCAUC/CTER a Llywodraeth Cymru
- Cynllunio Ffioedd a Mynediad
Llywodraethu Corfforaethol
Mae Prifysgol Cymru, Casnewydd yn ymrwymedig fel sefydliad addysg uwch sy’n darparu addysg a gwasanaethau dwyieithog yn unol â dewis yr unigolyn. Amlygir hyn yn ei rôl fel arweinydd sector ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a thrwy ymgysylltu’n rhagweithiol gyda’r dyletswyddau sydd wedi’u hamlinellu yn Safonau’r Gymraeg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Mae strategaethau a pholisïau ar waith i lywio ein gweledigaeth sefydliadol.

Daeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i rym yn llawn ar 1 Ionawr 2005 a’i nod yw hyrwyddo diwylliant o fod yn agored ac yn atebol ar draws y sector cyhoeddus

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i bobl ofyn am wybodaeth gan y Brifysgol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.

Mae angen i’r Drindod Dewi Sant brosesu a storio gwybodaeth (gan gynnwys gwybodaeth bersonol a elwir yn 'Ddata Personol' a data sensitif a elwir yn 'Ddata Categori Arbennig') am fyfyrwyr, gweithwyr ac eraill i ymgymryd â’i busnes yn effeithiol.

Corff llywodraethu’r Brifysgol yw Cyngor y Brifysgol. O dan y Siarter a’r Ystatudau, mae’r Cyngor yn gyfrifol am benderfynu cymeriad addysgol a chenhadaeth y Brifysgol, gan oruchwylio ei gweithgareddau, sicrhau ei hydaledd a diogelu asedau.
