
Digwyddiadau ac Aduniadau
Digwyddiadau ac Aduniadau
Cyn belled â’ch bod wedi cofrestru ar gyfer e-gylchlythyrau ac wedi diweddaru eich manylion, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiadau rydym wedi’u cynllunio, gan gynnwys aduniadau, digwyddiadau rhwydweithio neu hyfforddi proffesiynol, ffeiriau gyrfaoedd a mwy. Mae croeso cynnes yn aros amdanoch chi bob amser yn ôl ar eich campws astudio.
Digwyddiadau ac Aduniadau
Cadwch lygad am ddigwyddiadau yn y dyfodol!

Am gynllunio aduniad?
Aduniad yw’r ffordd berffaith o ailgysylltu a hel atgofion â chyn-fyfyrwyr eich dosbarth gynt, a hyd yn oed wneud cysylltiadau newydd.
Yn ogystal â chynnal aduniadau ar gampws, rydym hefyd yn hapus i’ch cefnogi os ydych chi byth eisiau trefnu eich aduniad eich hun. Gall y Brifysgol ddarparu cymorth gweinyddol, estyn allan at gyn-fyfyrwyr eich cyfnod drwy e-byst a hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol, a gallwn gynnig ffotograffiaeth broffesiynol ar gyfer y digwyddiad.
Mae gennym becynnau aduniad gwych ar gael ar gampysau Caerfyrddin a Llambed sy’n cynnwys lleoliad, bwyd a llety.
Os hoffech chi gael cefnogaeth i drefnu eich digwyddiad ac eisiau derbyn pecyn aduniad, cysylltwch ag alumni@UWN.ac.uk.