
Pethau i’w Gwneud yng Nghaerfyrddin
Mwynhewch yr Awyr Agored yn Nhref Farchnad Hardd Caerfyrddin
Crwydrwch trwy’r Dref
Mae gan dref farchnad hanesyddol Caerfyrddin amrywiaeth fawr o gaffis, bariau a siopau gan gynnwys Pizza Express, Costa, Lush, a sinema chwe sgrin 3D cwbl ddigidol.
Dywedodd myfyriwr yn ddiweddar mai’r bwyty lleol, Sloppy Joes, yw’r “lle i fynd am fyrgyr blasus o ansawdd da!” Peidiwch, da chi, âcholli’ch cyfle i fynd.
Cadwch yn Heini

Cadwch yn Heini
Caerfyrddin yw ein campws egnïol! Mae digon i’w wneud ar ac oddi ar y campws. Ar y safle, gallwch ddefnyddio’r gampfa, y pwll a’r neuadd chwaraeon, neu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon lle mae amrywiaeth eang o weithgareddau i’ch diddanu.
Oddi ar y campws gallwch gael blas ar yr hyn sydd gan Sir Gâr i’w gynnig, gyda gweithgareddau fel caiacio môr, arfordira, a dringo!
Ewch am Noson Allan Wych
Mae nifer o glybiau a thafarndai cyfeillgar yn y dref, ac mae ein myfyrwyr yn argymell Club XO, Cwrw, a thafarn y Friends Arms fel rhai o’r goreuon.
Ewch i Weld Sioe
Beth am fynd i Theatr y Lyric, testun y ffilm ‘Save the Cinema’. Fe welwch chi dalent leol yno, fel Opera Ieuenctid Caerfyrddin a’r Cylch, yn ogystal â chwmnïau teithiol o bob rhan o’r DU.

Bywyd ar y Campws
Mae digonedd o bethau i’w gwneud ar ein campws yng Nghaerfyrddin. Mae llyfrgell, theatr, pwll nofio, campfa, neuadd chwaraeon, bar a chlwb undeb y myfyrwyr, yn ogystal â llety myfyrwyr ar y campws.
Teimlo’n llwglyd? Beth am ginio yn ein bwyty Merlin neu baned a chacen yn Y Cwad?
Ymhellach i Ffwrdd…
Gallwch fynd am drip byr yn y car i bentref hyfryd Llansteffan. Gyda’i draeth a’i gastell hardd mae’n lle perffaith i chwarae pêl a chael barbeciw gyda ffrindiau!
Mae mwy o draethau gogoneddus yn Sir Gaerfyrddin hefyd, yn ogystal â gwyrddni hyfryd cefn gwlad, gan gynnwys Cefn Sidan ym Mhen-bre, Pentywyn, Glanyfferi, Parc Arfordir y Mileniwm yn Llanelli, a Thalacharn, lle’r arferai Dylan Thomas fyw.
Book an Open Day
