Skip page header and navigation

Cyrsiau

Cyrsiau

test

Ydych chi’n barod i ddewis eich stori?

Edrychwch ar ein tudalennau cyrsiau, rydym wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor. Mae gennym raddau llawn-amser a rhan-amser ar gael - gyda rhai yn cynnwys opsiynau i astudio am 1-2 flynedd. Ar gyfer cyrsiau byrrach a phrentisiaethau, ewch draw i’n tudalennau arbennig ar gyfer cyrsiau byr a phrentisiaethau gradd.

Gall deall beth yw’r gwahaniaethau rhwng yr holl wahanol fathau o gyrsiau fod yn anodd - isod fe welwch grynodeb o’r gwahanol fathau o gyrsiau gradd a chyrsiau ôl-radd yr ydym ni’n eu cynnig er mwyn eich helpu i ddeall ac i wneud cais.

Mathau o Gyrsiau

Baglor yn y Celfyddydau (BA) / Baglor Gwyddoniaeth (BSc) / Baglor Peirianneg (BEng) / Baglor Cerddoriaeth (BMus) / Baglor yn y Gyfraith (LLB)

Cymhwyster Lefel 6 lle byddwch fel arfer yn astudio yn llawn-amser am dair blynedd*.

*Mae rhai graddau dwy flynedd ar gael.

Diploma Addysg Uwch (DipHE)

Cymhwyster Lefel 5 sy’n cyfateb i ddwy flynedd gyntaf rhaglen lawn-amser.

Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE)

Cymhwyster Lefel 4 sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf rhaglen lawn-amser.

Diploma Cenedlaethol Uwch (HND)

Cymhwyster Lefel 5 sydd wedi’i gynllunio i fod yn gysylltiedig â gwaith ac yn alwedigaethol ei natur; mae’n gyfwerth â dwy flynedd gyntaf rhaglen radd llawn-amser.

Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC)

Cymhwyster Lefel 4 sydd wedi’i gynllunio i fod yn gysylltiedig â gwaith ac yn alwedigaethol ei natur; mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf rhaglen radd lawn-amser.

Meistr Dylunio (MDes)

Mae Gradd Meistr Integredig yn gymhwyster Lefel 7 sydd fel arfer yn gofyn am bedair blynedd o astudio llawn-amser.

Meistr yn y Celfyddydau (MA), Meistr Gwyddoniaeth (MSc) / Meistr Diwinyddiaeth (MTh) / Meistr Gweinyddu Busnes (MBA)

Cymhwyster Lefel 7 ar ôl cwblhau 180 credyd.

Tystysgrif Addysg Uwchradd i Raddedigion (TAR Uwchradd) / Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) / Addysg Ôl-orfodol (PCE)

Cymhwyster sy’n cynnwys 60 credyd ar lefel 7, a 60 credyd ar lefel 6. 

Diploma i Raddedigion (PGDip)

Cymhwyster Lefel 7 ar ôl cwblhau 120 credyd.

Tystysgrif i Raddedigion (PGCert) / Tystysgrif Prifysgol (UniCert)

Cymhwyster Lefel 7 ar ôl cwblhau 60 credyd.

Doethur mewn Athroniaeth (PhD)

Cymhwyster lefel 8, prosiect ymchwil a gaiff ei gwblhau fel arfer dros 3-4 blynedd os ydy’n amser llawn neu 6-8 blynedd yn rhan-amser. 

Doethuriaethau Proffesiynol (DProf/ProfDoc) / Doethur mewn Gweinyddu Busnes (DBA) / Doethur mewn Addysg (EdD)

Cymhwyster lefel 8, fel arfer gyda blwyddyn o fodylau a addysgir a 2-3 blynedd am brosiect ymchwil os ydy’n amser llawn, neu 2 flynedd (a addysgir) a 4-6 blynedd (prosiect) yn rhan-amser.

Doethur mewn Athroniaeth drwy Weithiau Cyhoeddedig (PhD)

Cymhwyster lefel 8 sy’n cynnwys dadansoddiad adfyfyriol a detholiad o weithiau cyhoeddedig a adolygwyd gan gymheiriaid rhyngwladol yn flaenorol, a gaiff ei gwblhau fel arfer mewn blwyddyn yn amser llawn neu 2 flynedd yn rhan-amser. 

Meistr mewn Athroniaeth (MPhil)

Cymhwyster lefel 7, sy’n gyfwerth â’r 2 flynedd astudio gyntaf ar gyfer PhD, a gaiff ei gwblhau fel arfer mewn 2-3 blynedd yn amser llawn neu 4-6 blynedd yn rhan-amser.

Meistr mewn Ymchwil (MRes)

Cymhwyster lefel 7, â 60 credyd o fodylau a addysgir a phrosiect ymchwil, a gaiff ei gwblhau fel arfer mewn 2 flynedd yn amser llawn neu 4 blynedd yn rhan-amser. 

Meistr yn y Gwyddorau drwy Ymchwil (MScRes)

Cymhwyster lefel 7 heb unrhyw fodylau a addysgir, a gaiff ei gwblhau fel arfer dros 1-2 flynedd yn amser llawn neu 2-4 blynedd yn rhan-amser. 

Ar y Campws

Rhaglenni lle mae myfyrwyr yn dysgu ar y campws drwy gydol y cwrs, ac eithrio elfennau ar-lein cefnogol, a fydd yn llai na 25% o gynnwys y cwrs.

Cyfunol

Rhaglenni lle mae myfyrwyr yn bresennol am fwy na 50% o gyfanswm eu horiau cyswllt.

O Bell

Rhaglenni lle nad yw myfyrwyr yn bresennol yn gorfforol yn ystod y cwrs. 

Llawn-amser
Rhan-amser