
Ceisiadau Israddedig
Ceisiadau Israddedig
Mae eich antur israddedig yn dechrau nawr. P’un ai a ydych chi’n chwilio am ragor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais ar gyfer gradd baglor neu gyngor ar baratoi cais rhagorol, rydyn ni yma i roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi ddilyn eich trywydd eich hun.
Gwneud cais drwy UCAS: Is-raddedig
Mae’r rhan fwyaf o geisiadau i astudio ar gyfer rhaglenni gradd israddedig llawn amser neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch yn y Brifysgol yn cael eu gwneud ar-lein trwy UCAS. Mae UCAS yn helpu i symleiddio'r broses o wneud cais ar gyfer darpar fyfyrwyr sy’n awyddus i fynd i brifysgol.

Datganiad personol yw eich cyfle unigryw chi i ymchwilio i'r dyheadau, y profiadau a’r rhinweddau sydd, yn eich barn chi, yn eich gwneud chi'n berffaith ar gyfer y cwrs a'r brifysgol rydych chi wedi’u dewis. Dylai fod yn adlewyrchiad cywir o bwy ydych chi y tu hwnt i'ch cyflawniadau academaidd, gan roi cipolwg ar eich diddordebau, eich cymhellion a'r daith sydd wedi eich arwain at y foment hon.

Yma yn PCYDDS, rydyn ni’n deall y gall y daith i addysg uwch fod yn broses ddeinamig ac yn un sy’n esblygu. Mae UCAS Extra yn opsiwn unigryw a hyblyg sy’n cael ei gynnig gan UCAS ac sy’n agor drysau i fyfyrwyr sydd efallai heb sicrhau lle trwy eu ceisiadau cyntaf neu sy’n awyddus i archwilio posibiliadau addysgol newydd.

Bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol yn hytrach na thrwy UCAS ar gyfer llawer o'n rhaglenni prentisiaeth a rhan-amser. Mae modd gwneud cais trwy glicio ar y ddolen isod yn ogystal ag yn uniongyrchol o dudalen y cwrs perthnasol.

Er y gall dewis astudio mewn gwlad wahanol ymddangos yn anodd i ddechrau, rydym yn ymroi i sicrhau fod y broses yn un rhwydd i chi.

Cysylltu â’r Tîm Derbyn
-
Ffôn: 0300 500 5054
E-bost: admissions@UWN.ac.uk
Campws Caerfyrddin
Swyddfa Dderbyniadau
Y Gofrestrfa
PCYDDS
Llawr 1af Adeilad Dewi
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EP
Campws Llambed
Swyddfa Dderbyniadau
Y Gofrestrfa
PCYDDS
Adeilad Caergaint
Llanbedr Pont Steffan
SA48 7ED
Campws Abertawe
Swyddfa Dderbyniadau
Y Gofrestrfa
PCYDDS
Technium 1
Heol y Brenin
Abertawe
SA1 8PH -
Ffôn: 0300 373 0651
E-bost: homerecruitmentwales@UWN.ac.uk -
Ffôn: 0121 229 3000
E-bost: birminghamadmissions@UWN.ac.uk -
Ffôn: 0207 566 7600
E-bost: londonadmissions@UWN.ac.uk -
Ffôn: 01792 482050
E-bost: international.registry@UWN.ac.uk -
Ffôn: 01267 676849
E-bost: RegistryPGR@UWN.ac.uk -
Os oes gennych unrhyw ymholiadau’n ymwneud â’ch cofnod cofrestru myfyriwr, arholiadau, graddio neu os ydych am wneud cais am drawsgrifiad/tystysgrif mewn perthynas â’ch astudiaethau yn PCYDDS, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau’r Gofrestrfa.