
Partneriaethau Cydweithredol
Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol
Mae darpariaeth gydweithredol yn bwysig i’r Brifysgol am ei bod yn ffordd o drefnu bod ei rhaglenni ar gael i fyfyrwyr o ystod eang o ardaloedd daearyddol ac yn cynnig iddynt brofiad addysg byd-eang o’r iawn ryw.
Mae hefyd o fudd i sefydliadau partner y Brifysgol, a’r myfyrwyr sy’n astudio yno, trwy gynnig:
- Cysylltiadau gwerthfawr ag addysg uwch yn y DU,
- Cyfleoedd ymchwil a datblygiad staff,
- Cyfleoedd ar gyfer dilyniant myfyrwyr
- Manteision sydd ar gael i holl gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol
Mae’r Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol yn cefnogi cyflwyno’r canlynol mewn partneriaeth:
- Rhaglenni PCYDDS
- Rhaglenni Prifysgol Cymru (tan eu cwblhau).
Mae’n goruchwylio prosesau cymeradwyo a monitro ac yn cynnig cyngor ynghylch materion sy’n gysylltiedig â darpariaeth gydweithredol i staff yn y sefydliadau partner cydweithredol a’r Brifysgol.
-
Pan fydd myfyrwyr yn cofrestru ar un o raglenni’r Drindod Dewi Sant maent yn cytuno i dderbyn y telerau a’r amodau a nodir gan y sefydliad partner pan fyddwch yn derbyn lle ar y rhaglen. Maent hefyd yn cytuno i gydymffurfio â rheoliadau a phrosesau’r Brifysgol, sydd wedi eu crynhoi yn y Cytundeb Cofrestru Partner.
-
Ysgrifennwyd llawlyfr Gweithrediadau Partneriaid yn bennaf er mwyn rhoi arweiniad i sefydliadau partner, er bod llawer o’r wybodaeth a geir ynddo hefyd yn berthnasol i staff y Brifysgol sy’n rhan o bartneriaethau cydweithredol.
Nod y Llawlyfr yw rhoi canllawiau cyffredinol ynghylch gweithredu rhaglen gydweithredol, a chadarnhau ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu gwasanaeth o ansawdd ar gyfer ei sefydliadau, er mwyn eu galluogi i weithredu’n effeithiol.
Yn y llawlyfr ceir cynnwys o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd a chyfeirir at y penodau a’r atodiadau priodol ar gyfer manylion pellach, fel y bo’n berthnasol.
-
Mae’r Brifysgol hefyd wedi diweddaru ei chanllawiau mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer amgylchiadau esgusodol. Gellir dod o hyd i gopi o’r canllawiau newydd isod:

Adnoddau Llyfrgell
Er y darperir adnoddau dysgu craidd ar gyfer myfyrwyr gan bob sefydliad partner, gall y Brifysgol ddarparu rhai adnoddau ychwanegol ar gyfer ei myfyrwyr mewn sefydliadau partner.
Mae'r swyddfa wedi'i lleoli yng Nghaerdydd yn:
Adeilad Cofrestrfa’r Prifysgol Cymru
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NS
-
- Dr Stuart Robb, Pennaeth Partneriaethau Cydweithredol (Cysylltiadau Partneriaeth)
- Elisa Tavares Llewellyn, Pennaeth Partneriaethau Cydweithredol (Gweithrediadau)
Sylwch fod gennym ddau dîm o Swyddogion sy’n cefnogi ein partneriaid cydweithredol:
Team A, sy’n cefnogi ac yn delio â’n partneriaid yn Tsieina a’r Dwyrain Pell.
Team B, sy’n cefnogi ein partneriaid yn Ewrop.