
Ceisiadau Rhyngwladol
Ceisiadau Rhyngwladol
Er y gall dewis astudio mewn gwlad wahanol ymddangos yn anodd i ddechrau, rydym yn ymroi i sicrhau fod y broses yn un rhwydd i chi. Yma fe gewch ganllawiau cynhwysfawr ar weithdrefnau ymgeisio, gofynion mewnfudo a fisa, a hyfedredd yn yr iaith Saesneg, gan roi cefnogaeth gadarn i chi ar bob cam o’ch gweithgareddau addysgol.
Sut i wneud cais
Gall myfyrwyr sy’n awyddus i astudio gradd yn llawn amser neu’n rhan amser gyda ni wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol. Bydd y graddau hyn yn cael eu dyfarnu gan PCYDDS.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau e-bostiwch y Gofrestrfa Ryngwladol.
Gallwch hefyd wneud cais trwy asiant yn eich gwlad chi. Mae PCYDDS yn gweithio gyda rhwydwaith sefydledig o asiantaethau addysgol ar draws y byd sy’n chwarae rhan werthfawr iawn wrth gefnogi ymgeiswyr a darpar fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio gyda ni. Gall asiant eich helpu i wneud cais. Byddan nhw’n rhoi cyngor ar ddewis a gwneud cais am radd, cael fisa a dod o hyd i lety.
Rhestr o Swyddfeydd Rhanbarthol
Swyddfa India PCYDDS
905, Adeilad Kailash, KG Marg, Barakhamba, Delhi Newydd, 110001, India
Os oes gennych ddiddordeb mewn recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ar gyfer PCYDDS, cysylltwch â ni.
Gall Myfyrwyr Rhyngwladol a hoffai astudio gyda ni am semester wneud cais drwy lawrlwytho a llenwi ffurflen gais astudio dramor.
Dychwelwch y ffurflen wedi’i chwblhau i’r Gofrestrfa Ryngwladol a GoGlobal.
Y dyddiad cau ar gyfer semester yr Hydref yw 30 Mai 2024.
Sylwch fod rhaglenni Astudio Dramor a Chyfnewid yn amodol ar fod wedi cofrestru ar hyn o bryd mewn Prifysgol yn eich mamwlad.
-
Dyddiad cau Campysau Cymru Campws Llundain Campws Birmingham Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 20 Tachwedd 2023 20 Tachwedd 2023 30 Hydref 2023 Dyddiad cau Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS) 11 Rhagfyr 2023 15 Ionawr 2023 20 Tachwedd 2023 Dyddiad cau
Campysau Cymru
Campws Llundain
Campws Birmingham
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Amh
22 Ebrill 2024
25 Mawrth 2024
Dyddiad cau Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS)
Amh
13 Mai 2024
15 Ebrill 2024
Mae’n rhaid i bob Myfyriwr Rhyngwladol sy’n ceisio mynediad i’r Brifysgol ddangos eu bod yn rhugl yn y Saesneg i’r lefel a nodir yng ngofynion mynediad a pholisi Saesneg y Brifysgol.

Mae gan PCYDDS wasanaeth arbenigol a chynhwysfawr sy’n rhoi cymorth gyda phob cam o’r broses o wneud cais am fisa ar gyfer astudio yn y DU. Bydd y math o fisa y byddwch ei angen yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, gan gynnwys hyd a lefel y cwrs astudio dan sylw.
