Cymorth gan wyddorau chwaraeon yn ‘newid popeth’ ar gyfer para-triathletwr
Mae jyglo straen bob dydd yn ogystal â hyfforddi i gystadlu’n rhyngwladol yn her i bob athletwr o ddifri. Pan fo tasgau beunyddiol yn hyd yn oed mwy heriol am eich bod mewn cadair olwyn, gall fod yn anoddach fyth.

Nod Darren Williams, sy’n bara-triathletwr, yw cynrychioli Prydain Fawr yn nigwyddiadau Cyfres Para-Triathlon y Byd. Ar hyn o bryd mae’n cael ei gefnogi trwy bartneriaeth rhwng Triathlon Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae rhan o’r pecyn hwn yn cynnwys cymorth gwyddor chwaraeon a ddarperir gan Geraint Forster, Ffisiolegydd Ymarfer Corff PCYDDS a’i fyfyrwyr ar y radd BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Ynghyd â phrofion ffisiolegol rheolaidd fel profion VO2max, mae Darren wedi derbyn sesiynau dadansoddi nofio tanddwr, cymorth cryfder a chyflyru, a thriniaethau therapi chwaraeon.
Dywed Darren bod y cyngor arbenigol mae wedi’i gael ar reoli ei hyfforddiant ochr yn ochr â dygymod â straen bywyd wedi newid popeth.
Meddai:
“Rwyf wedi bod yn tracio amrywiant cyfradd curiad y galon (‘Heart Rate Variability’) ers dechrau 2023, ac mae hynny wedi newid popeth o ran cysondeb wrth hyfforddi. Nawr, gallaf fonitro sut mae fy nghorff yn ymateb i achosion straen nid yn unig wrth hyfforddi ond straen bywyd fel para-athletwr. Gallaf addasu dwyster/maint yr hyfforddiant i wneud yn siŵr fy mod yn cadw at y cynllun ac yn gyson. Nes i mi ddechrau defnyddio’r traciwr HRV, roeddwn yn gwneud gormod o hyfforddi ac roeddwn yn flinedig ac yn sâl yn aml.”
Esbonia Geraint Forster, Ffisiolegydd Ymarfer Corff PCYDDS:
“Mae amrywiant cyfradd curiad y galon yn mesur y bylchau rhwng pob curiad calon.Mae’n dweud ychydig mwy wrthym nag wrth nodi cyfradd curiad y galon wrth orffwyso. Os caiff ei nodi’n rheolaidd bob bore, mae’n rhoi syniad i ni ynghylch p’un a yw’r corff wedi cael digon o orffwys ac wedi gwella neu os yw’n dal i fod yn lluddedig neu’n llawn straen.
“Nid yn unig y mae’n ystyried straen hyfforddi, ond hefyd pethau fel pa mor dda rydych wedi cysgu, p’un a ydych yn teimlo’n orbryderus, p’un a allech chi fod yn brwydro salwch, ansawdd eich diet, defnydd o alcohol, ayb. Mae’n rhoi syniad cyffredinol o’ch ‘parodrwydd i hyfforddi.”

Ychwanegodd:
“Mae’n demtasiwn i athletwyr feddwl bod rhaid iddynt hyfforddi’n galed o hyd a chael agwedd ‘dim poen, dim elw’, ond dywed ymchwil wrthym nad dyma’r dull mwyaf effeithiol – mae’n tueddu arwain at berfformiadau gwael, anafiadau a ‘hunlosg’.
“I bob athletwr, ond yn arbennig felly i bara-athletwyr lle mae tasgau beunyddiol fel cymryd y plant i’r ysgol yn gallu bod yn fwy beichus, mae’n bwysig gwrando ar y corff. Mae tracio HRV yn caniatáu i chi wybod pryd y dylech wthio’n galed wrth hyfforddi, a phryd y dylech ymarfer yn llai caled. Yna, y gobaith yw bod hyn yn arwain at allu i hyfforddi’n fwy cyson a chael gwell canlyniadau.Mae Darren yn gweld bod hyn yn wir ers i ni ei gyflwyno i HRV.”
Mae cyflogadwyedd yn agwedd allweddol ar y radd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn PCYDDS. Mae rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio gydag athletwyr fel Darren yn hollbwysig er mwyn rhoi’r cyfle gorau i raddedigion gael swyddi perthnasol. Ynghyd â maint bach y grwpiau, cymorth personol, cymwysterau galwedigaethol wedi’u hymgorffori yn y rhaglen ac Academi Chwaraeon, nod PCYDDS Caerfyrddin yw darparu llwybr ansawdd uchel i yrfa ym maes chwarae ac ymarfer corff ar gyfer Gorllewin Cymru. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â g.forster@UWN.ac.uk

Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476