Dathlu cyflawniadau ein Prentisiaethau Gradd
I nodi Wythnos Prentisiaethau 2024 (5–11 Chwefror) mae Bridget Moseley, Pennaeth Uned Prentisiaethau’r Brifysgol, yn myfyrio ar ymagwedd PCYDDS at raglenni Prentisiaeth.

Mae’r Brifysgol bob amser wedi bod yn rhagweithiol wrth chwilio am gyfleoedd i arloesi, felly yn sgil ein gallu i weithio ar draws ffiniau traddodiadol roedd gennym y llwyfan perffaith i groesawu datblygiad Gradd-brentisiaethau, saith mlynedd yn ôl erbyn hyn. Trwy barhau i weithio’n agos gyda chyflogwyr rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, rydym wedi gallu creu rhaglenni gwych mewn ystod o sectorau i uwchsgilio, ailsgilio a datblygu’r rhai sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd yn y sectorau hynny.
Bellach mae’r Brifysgol yn darparu prentisiaethau yn y Gyfraith (CILEX); Rheolaeth Adnoddau Dynol (CIPD); Peirianneg, yn cynnwys Ordnans, Peirianneg Drydanol ac Electronig ac Electroneg Mewnblanedig; Gweithgynhyrchu Uwch; Gwydr Lliw; Rheolaeth Adeiladu; Mesur Meintiau; Ymarfer Cynorthwyo Therapi; Archaeoleg; a Phlismona.
Fel prifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth rydym wedi ymroi i sicrhau bod ein prentisiaid, sydd o gefndiroedd eang ac amrywiol, yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu yn eu rolau. Maent yn cael cyfle i ennill cymhwyster, sydd yn ei dro’n hybu eu hyder a’u hunan-barch. Mae’r tîm o Swyddogion Cyswllt Prentisiaid sydd â phrofiad o ddiwydiant yn dod â dealltwriaeth a gwybodaeth fasnachol i’r broses; maent yn darparu’r cyswllt hanfodol rhwng y prentisiaid, eu cyflogwyr a’r brifysgol, a thrwy gyfarfodydd rheolaidd maent yn sicrhau bod y prentisiaid yn parhau i ddatblygu a ffynnu drwy gydol y rhaglen. Mae prentisiaid yn ymwneud ag elfennau academaidd y ddarpariaeth trwy ddysgu ar-lein, wyneb yn wyneb a dysgu cyfunol; mae’r Swyddogion Cyswllt Prentisiaid yn cadw mewn cysylltiad â nhw, a’u cyflogwyr, trwy’r broses adolygu rheolaidd.
Yr wythnos hon rydym yn cwrdd â chyflogwyr, eu gweithwyr, a phrentisiaid newydd posibl, i drafod y rhaglenni sydd ar gael a sut y gallant gefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n uniongyrchol berthnasol i’w swyddi a’r cwmnïau maent yn gweithio iddynt. Rydym hefyd yn dathlu cyflawniadau ein prentisiaid a sut maent wedi dangos cymaint o ymrwymiad a dycnwch i barhau i weithio ac astudio, a rheoli’r holl heriau a ddaw mewn bywyd o ran cydbwyso’r elfennau personol a phroffesiynol.
Rwy mor falch o’n cyflawniadau hyd yn hyn o ran sefydlu, datblygu a chynnig y ddarpariaeth Brentisiaethau ac rwy wrth fy modd fod arolygiad diweddar gan OFSTED o’n saith prentisiaeth a ariennir gan gynllun ESFA Llywodraeth Prydain wedi rhoi sicrwydd ychwanegol o ansawdd ein darpariaeth. Y dyfarniad cyffredinol a gawsom gan OFSTED oedd Da a chanfuwyd fod y brifysgol yn Dda ar draws pob maes o’r arolygiad.
Yn yr adroddiad canmolwyd ein partneriaeth â chyflogwyr o ran cynllun a chynnwys y cwricwlwm, profiad proffesiynol ein timau darlithio yn ogystal â’r gwasanaethau cymorth, y gofal dros ein prentisiaid, a threfn lywodraethu gref y rhaglenni. Mae’r canlyniad cadarnhaol hwn a’r gymeradwyaeth o’r rhaglenni’n tystio i waith caled, ymroddiad ac angerdd ein staff yn ogystal â chyflawniad ein myfyrwyr prentisiaeth.
Un o bleserau fy rôl yw gweithio gydag ystod mor amrywiol o bobl, sydd â phrofiadau eang o addysg flaenorol, gwaith a bywyd; a’u gweld yn ennill yr hyder a’r sgiliau y mae’r rhaglen yn eu rhoi iddynt.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071